Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Nedw (llyfr).djvu/123

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

min nos hwnnw ond Mr. Edwards y gweinidog, ac y mae mam yn dangos pob un o lythyre Huw iddo fo. Wedi iddo ddarllen y llythyr, dyma mam yn troi ato fo, ac yn gofyn, "Lle 'rydech chi'n deyd y mae Huw, Mr. Edwards?"

"Yn yr un fan, ym Melgium mae'n siŵr," ebe Mr. Edwards.

"Ai yn Ffrainc y mae'r Pink ene hefyd?" medde hi.

"Pa Pink, Mrs. Roberts?" ebe Mr. Edwards.

"Dydio'n deyd ei fod o mewn rhyw le o'r enw Pink," medde mam. Methodd Mr. Edwards ei dallt hi am funud, nes imi ddangos y frawddeg iddo lle y dywedai Huw, "don't trouble about me, I am in the pink."

Bu Mr. Edwards yn hir yn trio dallt y frawddeg, â'i gefn atom. Yna trodd atom â'i lygid yn gochion, gan ddeyd mai lle ym Melgium yn ddiau oedd y Pink yma.

"Mr. Edwards," medde mam, "ymhle mae Belgiam?" Dywedodd ynte mai yng ngogledd Ffrainc. "Ond yr hyn sydd arna i eisio wybod," medde mam, "ydi prun ai'r ffordd ene, neu'r ffordd ene, neu'r ffordd ene, neu'r ffordd ene y mae o?" gan gyfeirio at bedwar pared y tŷ.

"Dowch i'r drws, Mrs. Roberts," ebe Mr. Edwards, "welwch chi'r ceiliog gwynt acw ar dô'r 'Black Crow?'"

"Gwela," medde mam.

"Welwch chi'r llythrenne N. E. S. W. acw o'i gwmpas o?" medde fo.

"Gwela," medde mam.

"Wel," ebe Mr. Edwards, "pan y mae pen y ceiliog bron yn cyfeirio tua'r E. yna, gan droi oddiwrth yr S., y mae o'n cyfeirio tua Belgium."