"Be mae'r 'E' ene yn ei feddwl?" medde mam.
"'East,' neu yn Gymraeg 'Dwyrain,'" medde Mr. Edwards.
"Y dwyrain! Pam fod y ceiliog â'i ben weithie i'r dwyrain?" medde hi.
"Wel," medde Mr. Edwards, "pan fo'r gwynt yn chwythu o'r dwyrain, y mae pen y ceiliog yn troi tuag yno."
"Gwynt Belgiam ydi gwynt y dwyrain te?" medde hi yn wyllt.
"Ia, os mynnwch chi," medde ynte dan wenu.
Gwelwodd mam, dechreuodd ei gwefuse grynu, ac aeth i'r tŷ. Gwelodd Mr. Edwards fod y sôn am Belgium wedi ei chyffwrdd, ac aeth ymaith heb ddeyd gair.
Ar ol swper y nosweth honno, aeth mam dros stori Mr. Edwards yn fanwl i nhad. "Rwan, felly," medde hi, "mae grât y gegin yma i'r gogledd; a'r grisie i'r de; y ffenest i'r gorllewin; a'r drws i'r dwyrain, wedi'r cwbl, fel yn yr hen dŷ. Pan y mae'r mŵg yn taro i lawr, gwynt y gogledd ydi hwnnw, pan y mae'r gwynt i'r drws, gwynt y dwyrain ydi hwnnw, pan y mae'r ffenest yn ysgwyd, dene wynt y gorllewin, ac yr wyt ti ac Isaac, Nedw, yn mynd tua'r de i'ch gwlâu."
"Os felly," medde fi, "mae ffenest fy llofft i i'r dwyrain. Mae'n dda na dydech chi ddim yn cysgu yn y llofft honno efo'ch bronteitus."
Bu nhad yn smocio tipyn, a mam yn pendympian, ar ol yr ymgom yma. Yna aeth pawb i'w gwlâu.
Erbyn y nosweth wedyn, roedd mam wedi cael diwrnod o gysidro, Ar ol swper, dene hi'n gofyn reit sydyn i nhad oedd o'n peidio â ngweld i'n llwytach nag arfer. "Oes genot ti boen yn rhywle, Nedw?" medde hi.