"Yr ydw i'n iawn," medde fi. "Nhroed i ydi'r unig le gwan arna i."
"Dydwi ddim yn siŵr o hynny," medde hi, "mae gen i ofn fod yr hen lofft ene uwchben y siambar yn rhy oer iti, machgen i. Ac y mae Isaac yn pesychu tipyn yn ddiweddar. Mi newidiwn ni heno, eiff dy dad a finne i honno, ac mi gewch chithe ddwad i hon uwchben y gegin."
"Dydi gwynt y dwyrain ddim yn blino troed bachgen a'i brifodd drwy syrthio o ben pren eirin. Chlywes i rioed fod y fronteitus ar draed neb," medde fi.
Ond, gan fod mam yn deyd, 'doedd dim arall i fod. Yr oedd un peth cysurus yn y llofft newydd—wynebu'r gorllewin, cartre Jinny Williams, yr oedd y ffenest, ac yr oedd yn fwy cyfforddus o lawer, a chysges hyd yn oed ynghynt na nhad y nosweth honno, o achos chlywes i mono fo'n chwyrnu. A 'doeddwn i'n clywed dim oddiwrth wynt y dwyrain oedd yn chwythu i ddannedd ffenest y llofft arall.
Rywbryd ynghanol y nos, mi glywes nhad yn gweiddi, "Ann, Ann, lle rydech chi?" heb neb yn ateb. Gwaeddodd nhad wedyn, a dene lais mam, annhebyg iawn i'w llais hi hefyd, yn ateb yn fain, o'r pellter, "Yn y fan yma."
Taniodd nhad fatshen, ac ymddengys iddo weld mam yn eistedd ar gader, yn ei becon nos, ac wedi codi'r bleinds, yn edrych i'r twllwch dudew tua'r dwyrain.
"Ann," medde nhad yn floesg, "bedi peth fel hyn da?—eistedd yn y fan ene berfedd nos yn edrych i'r twllwch, heb ddim ond eich becon nos amdanoch!"