"O!" medde mam, yn yr un llais main, "methu cysgu roeddwn i, rhaid fod y tipyn caws ene gawsom ni i swper wedi gneud drwg imi,—fedrai byth gysgu ar ol caws,—a chan ei bod hi'n nosweth glos, mi ddois yma i edrych oedd y wawr ar dorri, o achos mi gwelwn hi o'r ffenest yma gan ei bod hi'n edrych tua'r dwyrain." Ac yr oedd ei llais hi'n mynd yn feinach, feinach, nes darfod yn lân ar y gair ola.
"Dowch i'ch gwely, Ann bach," medde nhad, ynte mewn llais meinach nag a glywes i rioed ganddo fo, o achos baswr ydio, "mae bod yn y fan ene â gwynt y dwyrain ar y ffenest yn ddigon am y'ch bywyd chi. Ac mae arnai ofn, Ann bach, y bydd hi'n hir, hir, hir iawn cyn i'r wawr yr ydech chi'n disgwyl amdani dorri." A meinach, meinach yr âi ei lais ynte hefyd, nes darfod yn lân ar y gair ola.
Y peth nesa a glywn i oedd nhad yn diffodd y gannwyll, a'r ddau yn y twllwch, heb ddeyd gair wrth ei gilydd yn torri i sobian yn ddilywodreth. A'r unig reswm y medrwn i ei gasglu dros hynny oedd fod y nos mor dwyll, a'r wawr mor hir yn torri. Rhyfedd fod dau mewn oed a synnwyr hefyd yn beichio crïo am fod y wawr yn hir yn torri.
Wrth frecwest bore drannoeth, gofynnodd mam i mi a oeddwn yn teimlo'r llofft uwchben y siambar yn glos iawn pan oeddwn yno, ei bod hi'n dechre credu'n wir fod gair Dr. Huws yn ddigon iawn mai amod iechyd oedd i bawb agor eu ffenestri y nos, ei bod hi ers tro yn cael cur yn ei phen yn y boreue, ac yn mynd oddiwrth ei bwyd yn arw.
"Wel," meddwn inne, "dene'r peth gore yrwan y mae pawb ar eu lwfans."