"Wedi'r cwbwl," medde mam, "does dim tebyg i awyr iach."
Y diwrnod hwnnw gwelwn fod pen y ceiliog tua'r "E," ac er hynny nad oedd fawr o wich ym mrest mam.
Wrth fynd i'n gwlâu medde hi wrthai, "Nedw, gofala agor dy ffenest heno. Mi agorwn inne'n ffenest hefyd."
"Gwynt y dwyrain ydi hi," medde fi, "ac y mae'n beryg i chi gael bronteitus."
Gwelodd mam fod gwaith esbonio. Daeth yn ei hol, gosododd y gannwyll ar y bwrdd, ac eisteddodd ar y setl. Yn ei gweld fel hyn, eisteddodd nhad ar y sgrin, a minne ar y blocyn.
"Wyddoch chi," medde mam yn bwyllog, "rydwi wedi meddwl llawer am y peth, ac wedi dwad i'r penderfyniad nad oes a wnelo gwynt y dwyrain ddim â'r fronteitus, o achos dydio ddim arnai weithie pan y mae gwynt cry o'r dwyrain. Ond rhaid i chi drwsio'r glicied, hefyd," medde hi wrth nhad, "cyn i storm ohono fo ddwad."
"Mae pawb yn meddwl," medde fi, "mai gwynt y dwyrain sy'n codi bronteitus."
"Dydio ddim yn wir," medde mam yn bendant. "Dene Dei Hurt yrwan sydd yn stesion y dre, yn dwad yno o'i ben a'i bastwn ei hun efo'i chwisl. Mae o'n chwislo, ac y mae'r trên ymhen tipyn yn mynd. Mae o'n meddwl fod y trên yn mynd am ei fod o'n chwislo, ond mynd wnae'r trên prun bynnag a fydde Dei yno druan ai peidio. Ac y mae hi yr un fath efo'r fronteitus yn siŵr iti. Weithie mi ddaw pan fydd gwynt y dwyrain yn chwythu, ac weithie mi ddaw hebddo."