Cysgodd mam y nosweth honno â gwynt y dwyrain yn chwythu ar ei gwyneb, a chododd yn llawen bore drannoeth, am nad oedd wedi rhoi'r fronteitus iddi.
Ymhen diwrnod neu ddau dyma lythyr oddiwrth Huw yn deyd ei fod yn mynd i gael "leave" ymhen yr wythnos, ac y bydde fo adre nos Lun wythnos i'r nesa. Ac yr oedd mam uwchben ei digon. Parhaodd y gwynt i chwythu o'r dwyrain ar hyd yr wythnos honno, a mam yn y drws y rhan fwyaf o'r dydd, a'r awel yn chwythu ar ei gwyneb drwy'r nos, heb iddi gael bronteitus o gwbwl.
Daeth y diwrnod i Huw ddwad adre, ac yr oeddwn i wedi disgrifio i mi fy hun lawer gwaith sut y doi o i'r tŷ. Pan ddoi Huw i mewn, agorai'r drws bob amser yn sydyn ac yn llydan, a doi fel awel o wynt ar ddiwrnod heulog a gwên bob amser ar ei wyneb. Ddaru chi sylwi fod yn ddigon hawdd nabod cymeriad dyn oddiwrth y ffordd y mae o'n agor y drws a dwad i'r tŷ? Ond 'does gen i ddim amser i ddeyd chwaneg ar y pen ene heddyw.
"Nedw," medde mam pan ddois i o'r ysgol, "dos i'r Llan i edrych am dun salmon reit neis, fedrai ddim meddwl am ddim mwy wrth fodd Huw." Ac mi redes inne ynghynt na chynted gallwn, ac mi ddois â thun salmon reit helaeth gan nad oedd salmon wedi bod yn y tŷ ers blynyddoedd, er bod ei gael yn tolli ar ein lwfans cig ni. Bu mam trwy'r pnawn yn gneud cacen datws, a chacen gri, pethe wrth fodd Huw.
Daeth nhad o'r gwaith, ymolchodd, a rhoddodd ei ddillad gore. Dydio byth yn gneud hynny ganol wythnos ond ar adeg cyfarfod pregethu, neu ddiolch