Ddaeth Huw ddim y nosweth honno, ac aeth pawb i'w gwlâu heb y salmon. Wedi meddwl, doedd neb yn hidio rhyw lawer am salmon. Ac er ei bod yn storm, cadwodd mam y ffenest yn agored trwy'r nos i gael awyr iach. A medrodd ddisgrifio i'r dim fel y torrodd y wawr o dipyn i beth fore drannoeth. Un iawn am ddisgrifio ydi hi pan fydd hi mewn hwyl. Ac ni chlowyd y drws chwaith y nosweth honno, ac yr oedd yn rhaid i rywun godi'n barhaus i'w gau, am fod y gwynt o hyd yn ei chwythu'n agored.
Erbyn y nosweth wedyn, roedd mam wedi ail newid ei meddwl am gysylltiad gwynt y dwyrain â'r fronteitus. Caeodd y ffenest yn dyn, er mai gwynt y dwyrain—y gwynt oedd wedi lladd ei chur yn y pen—oedd yn chwythu. Clowyd y drws a rhoddwyd sach yr aelwyd o dano. Ac yr oedd hi'n mynd i'w gwely, a'i llygid yn gochion, ei phen yn drwm, a'r fronteitus arni nes methu anadlu bron.
Dene'r bore drannoeth y daeth y llythyr melyn hwnnw o'r War Offis, yn galw Huw—ein Huw ni—yn nymbar rhywbeth neu'i gilydd, a'r tipyn papur hwnnw ynddo fo, o gydymdeimlad wedi'i brintio, oddiwrth y brenin.
Fedra i ddim tynnu o fy meddwl rwan y nosweth honno wrth yr Hen Ffynnon, pan oedd Huw a finne yno am ddau o'r gloch y bore.