Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Nedw (llyfr).djvu/131

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XII.—IFAN OWEN TY'N LLWYN.

"Nedw," medde Betsen Jones y crydd pan es â thipyn o datws iddi oddiwrth mam un diwrnod, "be sy ar dy ddwylo di'n gwaedu?"

"Taro'r ddafad yma mewn carreg ddaru mi," medde fi.

"'Rargen fawr," medde hi, "mae dy ddwylo di'n llawn defed. Wyddost ti sut i'w mendio nhw? Galw yng ngefel Tomos Owen y gô a gofyn am gael molchi dy ddwylo yn y dŵr y mae o'n oeri haearn ynddo fo, bob dydd wrth fynd adre o'r ysgol, ac mi gei weld y clirian nhw i gyd ond iti beidio â sychu dy ddwylo, ond gadael i'r dŵr sychu arnyn nhw ohono'i hun."

Mi ddarum, ac mi ffeindies mai dyn clên iawn ydi Tomos Owen, hoff iawn o stori, ac o dipyn i beth, aeth Wmffre a fi ac ynte'n hen ffrindie, ac arhosem yno am gom bob dydd wrth alw i mi 'molchi nwylo. Dyn go newydd yn yr ardal ydio, wedi cymyd yr efel pan fu farw William Pitars.

Un diwrnod yr ha dwaetha roedd hi'n llethol o boeth, ac yn bygwth trane trwy'r pnawn. Roedd Wmffre a fi'n cychwyn adre wedi bod dipyn yn hwy na'r gweddill o'r plant, oherwydd castie Joseph y Titshar. O'n blaene ni roedd ene nifer o fechgyn yn mynd tuag efel Tomos Owen tan gomio. Dene daran sydyn, a mellten, a tharan wedyn. Ac i ffwrdd â phob un ar sgruth a throi i'r efel. Ac ni chawsom ninne ond cyrraedd y drws na ddaeth yn