gafod ofnadwy o law trane, ac yr oedd y mellt yn ddychrynllyd. Roedd pawb wedi dychrynu, a Tomos Owen yn ceisio ein diddanu. Wrth ei weld mor rydd, dene Morus yr Allt yn mentro gofyn iddo,—"Tomos Owen, o ble 'rydech chi'n dwad?"
"O Lanfangu, machgen i," medde Tomos Owen.
"Sut le ydio?" medde Morus.
Ddeydodd Tomos Owen ddim byd am dipyn. "Meddwl amdano fo y bum i trwy'r pnawn," medde fo yn y man. "Mae'r pnawn poeth yma yn fy atgoffa am bnawn poeth tebyg iddo fo dro'n ol yn Llanfangu, pnawn pur ryfedd. Fasech chi'n leicio cael hanes y pnawn hwnnw?"
"Basen," medde pawb.
"I ddechre," medde fo, "rhaid i mi ddeyd sut le ydi Llanfangu, ac mi ddechreua i yn y dechre. Dene'r peth gore am wn i." Ac aeth Tomos Owen ymlaen gyda'i stori, a dyma hi,—
"Lle rhyfeddol o dawel ydi Llanfangu," medde fo, "a'i Eglwys a'i fynwent yn ei ganol. Mwy o lawer iawn ydi trigolion y fynwent na thrigolion y Llan ei hun. Hwyrach mai dene'r rheswm pam fod y lle mor rhyfeddol o dawel, mai ymostwng y mae o, fel y dyle pob lle, i lywodraeth y mwyafrif. Welwch chi'r un fynedfa ohono fo, ac y mae ei beder ffordd fel tase nhw'n darfod ryw ganllath o'r Llan. Wedyn 'does dim i'w weled ond mynyddoedd, a brynie, a choedwigoedd, ar bob tu. Lle ydio fase'n taro bardd neu freuddwydiwr fel cilfach bell o sŵn y boen sy'n y byd. Ac wedi'r cwbwl, ei le amlyca o, mhlant i, ydi'r fynwent.
"A'r pnawn crasboeth yma o fis Mehefin, roedd o'n ymddangos fel pe na base yno leiafrif o gwbwl, a bod y mwyafrif wedi gadael eu cartref yn y fynwent,