dros ein penne ni. Dene fo'n eiste ac yn gafael mewn morthwyl, ac yn dechre siarad wedyn gan gadw amser ar yr eingion am dipyn efo'r morthwyl yma.
"Ond darfu'r llaeth enwyn," medde fo, "a'r maip, a'r trïeg, a'r toddion, a nosweth ryfedd oedd honno y bu raid i Ifan ac Elin Owen fod o bnawn un diwrnod tan drannoeth heb damed, rhag i'r plant ddysgu beth oedd eisio bwyd. A nhw'n myfyrio ar eu dyfodol o flaen ychydig farwor, y goedwig yn llethol dawel, a hyd yn oed y ffrwd wedi distewi yn eu myfyrdod nhw, dene sŵn rhoncian ymlaen o'r tuallan,—gŵr y Daran Fawr oedd yn pasio, ac yn melltithio'r Cymry rhwng rhegfeydd am na wnae nhw ymostwng i'w wasanaethu o, gan bwysleisio gogoniant llachar y genedl y tarddai o ohoni hi.
"Mi wrandawodd y ddau arno fo'n dwad, yn pasio heibio, ac yn mynd, nes i'r sŵn golli yn y pellter. Edrychodd Ifan Owen ym myw llygid ei wraig, edrychodd hithe i fyw ei lygid yntau, y ddau am y llwyta,—ond cochni annaearol y marwor oedd yn tywynnu ar eu gwedd.
"'Wel,' medde Ifan Owen toc, 'yfory amdani.'
"Mi ddechreuodd gwefuse Elin Owen grynu, ond ddaeth cysgod deigryn ddim i'w llygid hi. Ond bore drannoeth roedd ei gobennydd hi'n wlyb ddiferol, am fod ei gŵr wedi ei ddarostwng i ofyn am waith i ŵr y Daran Fawr, o achos gwydde hithe'n rhy dda na pharche'r ardal byth mwy neb fase'n ymostwng i weithio iddo fo. Ond wedi'r cwbwl beth sydd i ddyn i'w neud, â'i blant yn gwelwi bob dydd?
"Mi gafodd Ifan Owen waith yn y Daran Fawr, ac ymhen yr wythnos mi ddaeth â chwe swllt i Elin,—chwe swllt, mhlant i,—chwe swllt yr wythnos a'i fwyd oedd cyflog Ifan Owen i wynebu'i deulu.