Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Nedw (llyfr).djvu/142

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ar bnawn y dydd cynta o Ragfyr, mi ddaeth Mr. Richmond ato i ddeyd bod yn rhaid iddo fynd dros y nos honno i nol glo. A thaith bell oedd y daith i'r glo. Mi gychwyunid un min nos, a theithio trwy'r nos, a dwad yn ol ddyfnder nos drannoeth. Welai Ifan Owen fawr o ddim yn hyn nes i Mr. Richmond enwi'r cyffyle,—Bocsar, hen geffyl musgrell a bregus oedd un, a cheffyl ifanc newydd ei dorri i lawr oedd y llall. Roedd Ifan Owen yn ofni'r ceffyl ifanc yn fawr, o achos mi wydde fwy am ei nychtod na neb arall,—na hyd yn oed ei wraig ei hun.

"Nosweth oleu, rhwng ysbeidie o fwrw eira oedd y nosweth honno, a chaenen o eira tros y wlad. Rhaid oedd mynd ddwy filltir cyn cyrraedd Llanfangu ei hun, ac wedyn i'r mynydd, a ffordd anial, unig, am filltiroedd maith oedd y ffordd fynydd. Mi elwid rhan o'r mynydd, oedd ar godiad tir, yn Faes y Lladron, o achos bod traddodiad ar droed mai yno y llechai'r lladron ddyddie pedoli'r gwartheg a mynd â nhw i Loeger, ac ysbeilio porthmyn ar eu ffordd yn ol. Anodd oedd gweld y ffordd fynydd ar nos eira, ac roedd Elin Owen yn meddwl yn bryderus trwy'r nos am hynt ei phriod.

"Roedd hi'n bwrw eira wedyn drannoeth, ac Elin Owen yn dwad o'r siop fin nos lle bu hi'n toddi tipyn ar y ddyled efo'r cyflog. Ar y funud honno roedd yr awyr yn glir, y sêr yn fflamio mwy nag arfer, a'r wlad yn wen ddisglair dan y gawod oedd newydd ddisgyn, ac Elin Owen yn brysio adre at ei phlant dan synfyfyrio uwchben eu rhagolygon. Mi wibiodd seren ar draws yr awyr, a chododd hithe ei golwg i edrych arni. Wedi ei dilyn nes iddi ddiffodd, mi dynnodd ei golwg yn ol ar y ffordd fawr. A gwelai rywun yn siglo dwad i'w chyfarfod gan sefyll o'i