Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Nedw (llyfr).djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a-wel, a-wel," medde fo'n gyflym efo phob crafiad, fel giar fynydd. "A-wel, a-wel," mae gieir mynydd Cymreig yn ei ddeyd wyddoch, a "go-back, go-back," a ddywed gieir mynydd Seisnig. Safodd Pitar Jones yn llonydd wedyn, a dechreuodd ail grafu ei ben, a finne â nwy law ar gêg Wmffre rhag iddo fethu dal, ac medde Pitar Jones, "A-wel, a-wel, yn eno—a-wel—, wel Spargo, sut doist ti fel hyn?" Agorodd y llidiard a gwthiodd drwyddi i'r ochor arall at Spargo, a Spargo'n dawnsio, heblaw bod yn rhesi gwyrddion, a'r ddau beth yn ei neud yn wahanol iawn i'r hen Spargo. "Wel, wel," medde fo, "rwyt ti wedi dwad drwy'r llidiard yma fel ysbryd. Rhosa funud, bedi'r llinelle 'ma sy arnat ti?" ac edrychodd arnyn nhw'n fanwl. "Ow! annwyl," medde fo tros y wlad, "ysbryd Spargo ydio!" ac i ffwrdd â fo am ei fywyd.

Wedi i Wmffre a finne ddwad atom ein hunen, aethom i dynnu Spargo o'r ochor arall i'r llidiard, ond eyn inni fedru ei roi yn y drol, i ffwrdd â fo ar ol ei fistar fel y gwynt, gan adael y drol ar ol. Welsoch chi ddim tebycach i zebra yn eich oes, yn enwedig gan nad oedd hi ddim yn ole iawn ar y pryd.

"Dydio'n rhyfedd," medde fi wrth Wmffre, "fel y mae'r paent wedi rhoi ysbryd zebra yn y ddau, Gweno a Spargo, er na chawsom ni ddim gormod o hwyl ar eu paentio nhw."

Mi drychodd Wmffre arnai'n syn ac yn bryderus am dipyn. "Wyt ti'n siwr, Nedw," medde fo, "nad y naw-math-o-oel sy'n eu smartio nhw?" Feddylies i ddim am yr agwedd ene i bethe, ond doedd dim i'w neud ond gobeithio'r gore, a mynd adre. Er i ni rwbio'n hunen ag ired, a gneud ein gore i dynnu'r paent oddiar ein dwylo, methodd