Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Wmffre a fi ei dynnu'n ddigon llwyr, na'u bodloni nhw gartre yn ei gylch. Ymhen ychydig, daeth y stori allan, a chlywodd nhad ac ewyrth John. Wmffre a fi ydi'r ddau debyca i zebra yrwan, a rhesi duon sy ar ein cefne ni hefyd,—nid mor ddu a rhai zebras hwyrach,—glasddu yden nhw.
Wnawn ni byth gymysgu paent efo naw-math-o-oel eto. Wmffre oedd yn ei le. Yr oedd Spargo cyn llonydded ag erioed erbyn dydd Llun. Ond y gwaetha ydi fod y paent wedi rhedeg dros Gweno a Spargo i gyd, yn lle aros yn llinelle, a fase fo ddim yn gneud hynny dase fo'n oel iawn. Ond rhoswch chi nes inni fynd i Affrica ar ol tyfu'n fawr.