III.—ANTI LAURA.
"Edward," medde mam, ryw fin nos, wrth nhad, "ydech chi'n meddwl bod y sciarlet ffefar yn gatshin?"
Eistedd wrth y tân yr oedd nhad ar y pryd yn darllen yr Esboniad tan gau ei lygid, ac yn cyd-weld â popeth a ddarllennai, a barnu oddiwrth ei waith yn nodio. Ac eistedd wrth y tân, yn syllu iddo, yr oedd mam, ac Isaac yn cysgu ar ei glin, a minne'n gneud blaen ar bensel blwm, ac yn ceisio cuddio'r hollt oedd yn gwaedu yn fy mys i, a wnaed pan slipiodd y gylleth, neu ei cholli hi faswn i.
"Yn gatshin?" medde nhad, pan sensiodd o fod mam yn siarad, "ydi, debyg iawn. Be wnaeth i chi feddwl?"
"Wel," medde mam, "dene'r ysgol wedi cau, a hyd yn oed Wmffre dani hi, ac mae o'n gryfach o lawer na Nedw ac Isaac bach."
"Wel," medde nhad, "os ydi hi i ddwad, mi ddaw, a does dim i'w neud ond ei chymyd hi."
"Dydi hi ddim yn y dre," medde mam.
"Nagydi," medde nhad, "ond pa help sydd yn hynny?"
"Hyn," medde mam, dan grafu ei chlust â phin wallt. A phan wna mam hynny, mae o'n arwydd bob amser ei bod o ddifri. "Mae Laura 'n chwaer-yng-nghyfreth yn byw yno, a braidd yn unig â James oddicartre. Ac roeddwn i'n meddwl y base Nedw ac Isaac yn cael mynd yno am bythefnos, ac Annie'n cael mynd i dŷ Leisa fy chwaer."