"Pryd yden ni'n mynd, Nedw?" medde Isaac.
"Fory," medde fi.
"Ddoe," medde Isaac.
"Nage," medde fi, "fory."
"Wel, ddoe ydi fory," medde Isaac. Ac fel hyn yr oedd o tra buom ni yn nhŷ Anti Laura.
Pnawn Sadwrn, deydodd mam wrth nhad,— "Mae'n siwr, Edward, fel y deydsoch chi, na chân' nhw fawr o drefn ar fwyd yno. Feder Laura druan neud fawr o ddim ond dyrnu'r hen biana hwnnw. Be dasen ni'n anfon gwningen a giar iddi hi, a thipyn o wye? Dase'r bechgyn yn mynd â'r wningen efo nhw, ac inni anfon yr iâr erbyn y Sul." Aeth nhad allan, a chyn bo hir roedd o'n ol efo gwningen.
O'r diwedd dyma fore Llun yn dwad. Sôn am Wmffre yn sâl! Ynghanol y fath blagio mi newidiwn ddau le efo fo yn y funud. Efo John Roberts y cigydd roedden ni'n mynd, ac Isaac yn holi a thaeru fel melin bob cam o'r ffordd. Wedi cyrraedd tŷ Anti Laura, fase'r brenin ddim yn disgwyl croeso gwell. Mi cusannodd, ac mi cusannodd ni. Dase ni wedi cael cymin o fwyd tra buom ni yno ag o gusanne, mi fasem wedi pesgi nes methu symud. Ond feder neb dwchu rhyw lawer ar gusanne.
A dene ni at y bwrdd. Wyddem ni ddim sut i ddechre bwyta, ac yr oedd Isaac yn cyrraedd at bopeth ar unweth. Rhywbeth gwyn fel pwdin yn trio sefyll ar ei ben, a rhywbeth arall yn edrych reit neis, ond yn wag yn ei ganol wedi i chi roi'ch dannedd ynddo fo, oedd y pethe pwysica. Cododd Isaac a finne oddiwrth y bwrdd heb gael hanner digon. Mi gawsom enwe newydd hefyd i'n dau