Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Nedw (llyfr).djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gan Anti Laura tra y buom ni yno. "Mai Diar," oedd fy enw i, "Chubby" oedd enw Isaac. Doedd Isaac ddim yn cymyd at ei enw newydd am dipyn, ond fu o ddim yn hir cyn arfer â fo.

"Nedw," medde Isaac wrth i ni fynd i'n gwlâu, "roedd y pethe ene yn dda, ond Isaac eisio bwyd eto. Fase fo yn leicio cael lot fel hyn,"—dan ddangos siâp mynydd o'r peth gwyn hwnnw. Ac mi feddylies am Wmffre a fi un tro yn lle ein tade yn y cinio clwb. Fel arall roedd hi yno. Wedi bwyta nes methu symud dyma Wmffre'n deyd, "Wyddost ti be, Nedw, mi faswn yn leicio taswn i'n ddafad."

"Yn ddafad?" medde fi, "i be?"

"Mae gan ddafad beder stymog," medde Wmffre. Ac mi weles drwy'r peth yn syth.

Ar ol tê, dyma fi'n dangos y wningen a'r wye i Anti Laura, a hithe yn gafael amdana i wedyn, ac yn fy nghusannu nes imi deimlo reit wan, gan ei bod hi'n gwasgu fy stymog i, a finne newydd fwyta'r peth gwag hwnnw.

Bore drannoeth, wedi inni godi a chael brecwest o rywbeth â rhyw siort o jam arno—chawsom ni rioed jam i frecwest o'r blaen,—aethom allan i chware. Toc, dyma Anti Laura'n bloeddio arna i, a chrec yn ei llais. Mi redes i mewn, a dene lle roedd hi'n edrych yn syn ar y wningen. "Mai Diar," medde hi, "sut ma mam chi'n cwcio hwn?"

"Mae eisio ei blingo hi yn gynta," medde fi.

"Blingo!" medde hi, "What is 'blingo?'"

Wel dydi bachgen deg oed, wedi byw ar hyd ei oes dan gysgod Coed y Plas, ddim heb wybod be ydi blingo gwningen. Gofynes am fenthyg cylleth,