a chyn pen chwincied roedd ei chroen hi i ffwrdd, a hithe'n barod i'w stiwio. Dase gen i gyrn ar fy mhen, fase raid i Anti Laura ddim edrych yn rhyfeddach arna i. Oddiarna i edrychodd ar y wningen.
"Tydio'n tebyg," medde hi toc, "i babi bach newydd cael bath poeth?"
Ac eis i allan at Isaac. Roedd yn dda mod i wedi mynd. Roedd o'n trio gneud yr un peth i'r gath ag a wnes i i'r wningen, nes imi ei argyhoeddi na fedre fo ddim, am fod y gath yn fyw. Ond wydde Isaac mo'r gwahaniaeth rhwng peth byw a pheth marw, er iddo holi tua mil o gwestiynne ynghylch hynny.
Rhwng helpio Anti Laura ac edrych ar ol Isaac, roeddwn i cyn boethed a dase'r sciarlet ffefar arna i. Toc, tawelodd pethe, a finne ac Isaac yn chware reit glên. Yn y man mi glywn yr hogle rhyfedda'n dwad o'r tŷ, a rhedes i mewn. Dene lle'r oedd Anti Laura'n pilio tatws, a'r wningen yn ffrïo ar y tân.
"Wel, Anti Laura," medde fi, "nid ffrïo gwningen y mae nhw, ond ei stiwio hi. Fase waeth i chi geisio ffrïo pen dafad yr un llychyn."
"Bedi stiwio?" medde Anti.
Wyddwn i ddim be oedd y gair Saesneg am stiwio, ac mi ddeydes wrth hi mai gair mam am ferwi oedd o. Mi gawsom wningen i ginio wedi hanner ffrïo a hanner ferwi. Reit da hefyd ar y cyfan.
'Doedd gan Anti Laura ddim âm at gwcio. Ac mi gafodd Isaac a fi hefyd chware newydd i fynd hefo ni adre—chware Anti Laura'n golchi'r llawr oedd hwnnw. Mae hi'n picio o gwmpas o un lle i'r llall, fel ceiliog rhedyn, ac yn rhwbio