tipyn ar bob smotyn y disgyn hi arno. Chwerthodd Wmffre gymint wrth ein gweld ni, nes iddo fendio'n iawn oddiwrth y sciarlet ffefar, ac ynte wedi penderfynu hefyd bod yn sâl o dani am fis.
Ac yr oedd gan Anti Laura ddull da i olchi'r llestri. 'Doedd hi ddim yn cadw morwyn, er y basech yn disgwyl i un fel hi neud, ond cadwai gath. Wedi gorffen pryd bwyd roedd hi'n rhoi'r platie i'r gath eu llyfu nhw, ac wedi eu dipio mewn dŵr a'u sychu â'r llian, dene nhw i'r dim. Dene'r ffordd glenia weles i rioed. A'r peth cynta wnes i ar ol mynd adre a deyd y stori wrth mam, oedd ei chynghori i gadw cath. A barnu ar olwg mam, mi fase pob cath yn deifio dano fo, fel gwlydd tatws dan farrug. Oddiar gathod, fel ene, mae plant yn cael y sciarlet ffefar a'r dipitheria, medde nhad.
Rhwng dull Anti o olchi'r llawr, golchi'r llestri, a chwcio, mi welsom lawer o bethe newydd spon. Ymhen diwrnod neu ddau daeth yr iâr. Gan na fedre Anti ddim blingo gwningen, mi feddylies y base hi'n gofyn am fy help i bluo'r iâr, ond ddaru hi ddim. Ac eis i ac Isaac i chware, ond heb fynd o gyrraedd galw. Toc mi glywn Anti yn rhyw grio-nadu, ac mi redes i'r tŷ. Dene lle roedd hi â'i dwylo'n waed ac yn blu i gyd, yn eistedd wrth y tân yn crio. Mi edryches yn syn arni hi. Pan ddaeth ati ei hun,—"Mai Diar," medde hi, "neith y giar ddim blingo."
"Blingo bybê?" medde fi.
A dene hi â fi i'r bwtri. Welsoch chi rotsiwn beth. Roedd croen yr iâr yn ddarne fel tase hi wedi ei rhidyllio, a'i phlu'n rhidens ynghanol gwaed a strel. "Be fuoch chi'n neud, Anti?" medde fi.
"Trio blingo fo," medde Anti.