IV.—MESUR TIR.
Y peth mae nhw'n alw'n llabwst ydi Jona'r Teiliwr. Wn i ddim pa grefft ydi honno, ond rydwi'n siwr ei bod hi'n un ddifyr iawn, o achos byd braf iawn ydi byd Jona. Anamal y mae o'n gneud dim ond gwagsymera, a dydi honno, fel y gwyddoch chi, ddim yn grefft anodd iawn i'w dysgu. Rydwi'n siwr o hyn, nad ydio ddim yn deiliwr. Rhyw enw ar y teulu, rywsut, ydi teiliwr. Mae nhw'n galw bachgen ei chwaer o, sydd flynyddoedd iau na fi, yn Robin y Teiliwr, a dydwi ddim yn siwr y gŵyr o'n iawn bedi nodwydd, a barnu oddiwrth ei ddillad o. Mae'n hawdd coelio fod Robin yn credu mewn awyr iach, o achos mae digon o dylle yn ei ddillad i awyr redeg drwyddynt.
Un cyfleus iawn ydi Jona i fechgyn. O ran oed, mae o'n edrych yn rhywbeth tebyg i nhad, ac eto mae'n gas ganddo bobol mewn oed. Mae o wastad efo ni y bechgyn, ac yn lladd ar yr hen bobol, ac yn adrodd eu tricie nhw. Felly, trwyddo fo, ryden ni'n dwad i wybod sut rai ydi'r bobol yma sydd bob amser yn deyd wrthym ni fod pawb yn dda ond plant. Ac y mae gan Jona ddigon o amser ar ei ddwylo bob tro y mae Wmffre neu fi yn pasio. Byw ei hun y mae o, ac wastad ar ben y drws yn aros am ymgom efo rhywun sy'n pasio.
Hwyrach mai 'r rheswm mai gwagsymera mae o wedi ei ddewis fel gwaith ei fywyd ydi am ei fod o'n gloff. Rhyw hongol o beth ydio, yn hercian cerdded