pan fydd o'n mynd i rywle. Ac yr oedd Wmffre a fi efo fo pan aeth o'n gloff. Mynd ar neges oeddwn i, i nol tatws at y Sul, ac Wmffre i nol paraffin. Pwy welem ni'n dwad yn wyllt i'n cyfarfod ni, mor wyllt ag y meder dyn efo traed clwb, â lli yn ei law, ond Jona. "Fechgyn," medde fo, "dowch efo mi i weithio i Mistar Huws, Plas Isa." Ac i ffwrdd â ni, heb hyd yn oed ofyn pa siort o waith oedd o.
Mae'n ymddangos mai mynd i lifio coed oedd gwaith Jona, a ffwrdd â ni i'r Tyno, at yr hen dderwen. Mae ene dwll yn y dderwen ddigon maint i mi ac Wmffre a dau arall fynd i mewn, ac yno ryden ni'n berwi dŵr i neud tê yn yr ha. Pan aethom ni at y dderwen, dangosodd Jona gangen inni. "Mae eisio honacw i lawr," medde fo. Mi daflodd raff dros dop y gangen, wedi rhwymo un pen am ei ganol, ac ene Wmffre a finne'n tynnu yn y pen arall, i'w helpio i ddringo. O'r diwedd, eisteddodd ar y gangen, a dechreuodd lifio. Cyn bo hir mi ddarun sylwi ei fod o'n llifio'r gangen rhyngddo a'r pren. Ddaru ni ddeyd dim, o achos ein bod yn meddwl y base fo'n gweld ei fistêc yn ddigon buan. A mwy na hynny, dydio ddim yn beth priodol i blant gynghori dyn mewn oed. Dal i lifio yr oedd Jona o hyd, a chael hwyl ar y gwaith. Pan ddechreuodd y gangen ysgwyd, roedd o'n chwerthin nes oedd o'n sâl, ac yn ein gwahodd ninne i fyny i swingio efo fo. Ond fedrem ni yn ein byw ddim peidio â chwerthin wrth weld Jona'n chwerthin. Dene glec! ac i lawr â'r gangen,—a Jona. Ddaeth y gangen ddim yn hollol rydd oddiwrth y pren. Yr oedd hi'n hongian gerfydd ei gwrisg. Ond mi ddaeth Jona'n rhydd oddiwrth y gangen, a bowliodd fel pêl am lathenni.