Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Nedw (llyfr).djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Doedd dim i'w neud ond rhedeg am ein bywyd i ddeyd wrth Mistar Huws, Plas Isa. Roedd Jona wedi torri ei goes, a bu'n gorwedd yn hir, ac y mae o ac Wmffre a finne'n ffrindie fel dur byth wedyn, am i ni fod mor barod i redeg i nol help.

Wedi iddo fo fendio, mi heliodd yr ardal dipyn o arian i'w helpio, drwy neud consart iddo fo. Roeddwn i'n digwydd pasio newydd iddo gael yr arian, ac medde fo, "Nedw, wyddost ti be ydwi'n mynd i brynu efo'r pres yma,—mashîn neud cywion, a'u magu nhw yn y cae y tu ol i'r tŷ." Doeddwn i rioed wedi clywed am fashîn neud cywion o'r blaen, ac mi sboniodd Jona i mi. Rydech chi'n rhoi peth wmbredd o wye yn y mashîn yma, ac yn troi handlen, a beth sy'n dwad allan yr ochr arall ond cywion. Aeth Jona i ffwrdd yn ddistaw bach un diwrnod, a daeth yn ol efo'r mashîn. Bu'n casglu wye am ddyddie, ond roedd ei stori o'n wahanol ar ol dwad yn ol efo'r mashîn. Mae'n ymddangos nad drwy droi handlen yr ydech chi'n cael y cywion, ond drwy ryw ffordd arall.

Ryw ddiwrnod mi glywn floeddio ofnadsen y tu allan i'n tŷ ni cyn i mi godi, a hynny arna i. Pwy oedd yno ond Jona, a phen eis i'r ffenest,—"Nedw," medde fo, "mae acw gyw, ac un arall â'i ben drwy'r plisgyn."

I ffwrdd â mi i alw am Wmffre ynghynt na chynted gallwn i, ac ar ol Jona. Yn wir i chi, roedd yno gyw a hanner yno. Ond yr oedd Jona mewn helynt. Doedd o ddim wedi meddwl cael bwyd ar eu cyfer nhw. Ac i ffwrdd â mi am fwyd. Roedd Wmffre wedi ei syfrdanu ormod i fedru symud. Pan ddois i yn fy ol, roedd hi'n hwyr lâs i fynd i'r ysgol. A'i chael hi ddaru ni hefyd am fod