Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Nedw (llyfr).djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn hwyr, ond roedden ni'n barod am hynny, ac yn well allan na'r bechgyn erill wedyn,—doedd yr un ohonyn nhw rioed wedi gweld mashîn neud cywion.

Ond marw ddaru pob cyw i Jona druan, er ei fod o wedi cael cannoedd. Ar ol eu cael nhw, wydde fo ar wyneb y ddaear be i neud hefo nhw, o achos er i chi fedru gneud cywion mewn mashîn, rhaid i chi gael gieir i'w magu nhw. Newidiodd Jona'r mashîn am fochyn. A magu mochyn yn y cae y tu ol i'r tŷ y bu o wedyn.

A'r cae bach y tu ol i'r tŷ ydi popeth Jona. "Y ffarm acw," y mae o 'n ei alw, a'r "pethe" y geilw'r mochyn. Ac am y ffarm a'r pethe y mae o'n sôn fyth a hefyd, ond pan fydd o'n sôn am y senedd. Mae o wastad yn gofyn i Wmffre a fi, be sy'n mynd ymlaen yn y senedd. Rhoi bwyd i'r pethe y geilw roi bwyd i'r mochyn.

Un nosweth daeth tad Wmffre i'n tŷ ni am dro, ac Wmffre hefo fo. Aethom ni i'n dau i chware gwadnu'r gath. Mae hi'n ddigon hawdd gwneud hynny, os oes gennych chi flisg cnau ffreinig. Raid i chi ddim ond rhoi tipyn o gliw ar y blisg, a rhoi hanner plisgyn ar bob un o draed y gath. Mae hi'n dawnsio wedyn, y difyrra peth welsoch chi rioed.

Pan ar ganol y chware, clywes i nhad yn sôn rhywbeth am y senedd. Mi wrandewes yn syth. "Be feddyliech o'r mesur tir newydd sy gerbron y senedd?" medde nhad wrth f'ewyrth. Doedd yr hanes ddim yn rhyw ddifyr iawn, a dyma orffen gwadnu'r gath.

Wrth ddwad o'r ysgol drannoeth, pwy oedd ar ben y drws ond Jona. Dyma fo i lawr i'n cyfarfod ni, o achos mae'r tŷ dipyn o'r ffordd. Wedi adrodd hanes y mochyn,—"Sut y mae hi'n dwad ymlaen yn y senedd, fechgyn?" medde fo.

"Pasio i fesur tir mae nhw," medde finne.