"Mesur tir!" medde Jona, "yden nhw'n meddwl mesur y ffarm yma?"
"Mae nhw'n mynd i fesur pob tir," medde finne.
"Byth!" medde fo. "Mi fydd y fforch acw trwy'r cynta rydd ei droed ar fy nhir i i'w fesur o." Ac estynodd ei fys at y fforch.
O hyd ar ol hynny, am y mesur tir yma y mynnai sôn. Cyn bo hir mi gwelem o 'n mynd â llwyth o ddrain i gau'r adwye, a phlethu drain drwy'r llidiard, ac ni chawsom fawr o ymgom â fo am ddyddie.
Ryw fin nos roedd ene lot ohonom ni efo'i gilydd, yn methu gwybod beth i'w neud. Roedd cyfnod y marbls wedi darfod, a chyfnod y pegi heb ddechre.
"Wyddoch chi be nawn ni?" medde fi,—"Mynd i fesur tir Jona'r Teiliwr." Mi ddeydes hanes y mesur tir oedd gerbron y senedd wrthyn nhw, ac yr oedd pawb yn barod, o achos mi fase'n fantes i Jona wybod mesur ei dir o flaen llaw, rhag ofn i'r llywodraeth ei dwyllo. Rhaid er hynny oedd taro ar gynllun i'w fesur o heb i Jona wybod ar unweth.
Roedd cartre Wmffre yn rhy bell iddo redeg i nol het ore'i dad, ac mi eis i i lofft ein tŷ ni i nôl benthyg hen het silc taid, sydd acw rioed, a spectols nhad. Aeth Jac y Gelli i nôl benthyg côt a throwsus ei frawd hyna, a thâp mesur ei fam, o achos dresmecar ydi hi. Wedi cael y pethe hyn a thipyn chwaneg gan y bechgyn erill, dyma gychwyn. Aeth pawb ond fi at gae Jona. Eis i am ymgom at Jona ei hun. Mi fase'n biti inni fesur ei dir heb i Jona wybod hynny, ac hefyd mi fase'n biti iddo fo gael gwybod yn rhy fuan. Gan Wmffre yr oedd yr het silc a'r spectol.
"Jona," medde fi toc, "mae'r mesur tir wedi dwad, mi weles ryw fyddigions yn ei gneud hi am eich cae chi gynne." Aeth Jona cyn wynned a'r galchen.