Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Nedw (llyfr).djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ha sych iawn oedd yr ha dwaetha, a sychodd Pistyll y Llan, a doedd dim i bobol y Llan neud, ond dwad i'r Hen Ffynnon, fel ninne pobol y wlad. Ar ochor y Foel Fawr y mae'r Hen Ffynnon, yng nghanol grug a brwyn at eich ysgwydde. Ac y mae'r holl wlad a'r mynyddoedd pell, hyd at y Foel Ddu, i'w gweled oddiwrthi. O dipyn i beth, gan fod cymint o gario ohoni, aeth yr Hen Ffynnon yn sych liw dydd, a doedd dim i bobol ei neud ond mynd ati am y boreua. Aeth nhad yno un bore am bump o'r gloch, ond yr oedd hi'n hollol sych. Aeth bore drannoeth am bedwar, a chyfarfu â chynulleidfa'n dwad oddiyno. Y pnawn hwnnw, dene Huw fy mrawd hyna'n deyd yr ai o i nol dŵr cyn mynd i'w wely, ar ol dwad o'r gwaith. Gweithio'r nos yr oedd o cyn mynd i'r rhyfel, yn y gwaith plwm yr ochor arall i'r Foel Fawr, a dwad adre tua dau o'r gloch y bore. Meddylies mai iawn o beth fase medru deyd wrth y bechgyn mod i allan am ddau o'r gloch y bore, ac mi gynhygies fynd efo fo.

"Olreit," medde Huw, "cer i dy wely'n gynnar gael i ti fedru codi. Mi fydd yn werth iti weld y wawr yn torri yn yr ha, am unweth yn dy oes."

Mi es i ngwely'n gynnar, gan feddwl peth mor ardderchog oedd i fachgen deg oed weld y wawr yn torri yn yr ha. Ond rydwi wedi sylwi ar ol hynny, nad ydi'r pethe y mae pobol yn eu galw'n weledigaethe mor ddifyr am ddau o'r gloch y bore ag y mae nhw fin nos. Cyn imi gau fy llygid yn iawn, i'm tyb i, pwy oedd uwch fy mhen yn ceisio fy neffro ond Huw.

"N-e-d-w-w," medde fo'n araf ac ysgafn, gan godi ei lais tua'r diwedd. Ond doedd Nedw ddim yn ei glywed o.