"N-e-e-d-w-w-w," medde fo wedyn, gan godi ei lais dipyn uwch tua'r diwedd na'r tro cyntaf. Ond nid oedd na llais na neb yn ateb.
Mi sgydwodd chydig arna i. Ymhen tipyn,—"Nedw! Nedw!" medde fo fel ergydion, ond cysgu'n drwm yr oedd Nedw.
"Nedwnedwnedwnedwnedwnedw," medde fo wedyn, fel motor beic, gan fy ysgwyd fel crud. Ond yr oedd Nedw cyn farwed a hoel.
Ar hyn dene mam yno,—
"Nedw, machgen i, deffra," medde hi. "Mi golli dy tshans am weld y wawr yn torri, yn siwr iti."
Ond roeddwn i wedi penderfynu gneud fy ngore i ddal y brofedigieth honno'n ddi-gwyn, ers meityn.
Ar hyn dene Huw'n deyd,—"Thâl peth fel hyn ddim," ac yn gafael ynof, ac yn fy rhoi ar lawr y siambar. Doedd hi ddim yn anodd wedyn imi weld fod edrych ar y wawr yn torri o ymyl yr Hen Ffynnon yn brafiach na pheth fel hyn, a doedd dim i'w neud ond codi. Mi welwch chithe'n union mai da oedd imi fod wedi mynd at yr Hen Ffynnon i weld y wawr yn torri, wedi'r cwbwl.
Dene gychwyn. Roedd hi'n bur dwyll, ac heb smic i'w glywed yn unman, ond ambell i dderyn yn scrwtian ei adenydd yn y gwrych, ac ambell ddafad yn cnoi ei chil wrth i ni ei phasio at yr Hen Ffynnon. Fel y dringem at y ffynnon, yr oedd yr awyr fel yn rhyw ddechre sgafnu, a'r llwybyr trwy'r grug yn dwad yn gliriach.
"Hsht," medde Huw, "Mae ene rywun wrth y ffynnon." Ymlaen â ni, ac wedi mynd i ymyli,—
"Helo," medde rhywun. Adnabu Huw ei lais, ac adnabum inne'r un oedd yn llechu y tu ol iddo.