Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Nedw (llyfr).djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mi gwelwn hi rhwng twyll a gole rhynga i a'r Foel Ddu. Pwy oedden nhw ond Jinny Williams a'i thad. Mi ddechreuodd Huw a'i thad ymgomio am y sychter, a'r cynhaea a chant a mil o bethe felly. Ac yr oedd Jinny a minne'n rhydd i ymgomio fel y mynnem y tu ol iddyn nhw. Mi es yn nes ati, ond y peth cynta a wnes i oedd chwysu'n ddiferol, ac wedyn dechre rhynnu nes i fy nannedd guro'n enbyd. Welsoch chi rioed bethe mor anodd ydi gnethod i siarad efo nhw, pan ddaw'r tshans, heb neb ond nhw a chithe. Mi ddechreues sgwenu fy enw ar y ddaear efo blaen fy nhroed, a chyn belled ag y gwelwn i dan fy nghuwch fod Jinny'n gneud yr un peth. Mi godes fy mhen, ac ni welsoch erioed ffasiwn beth. Roedd top ei phen hi'n union ar gyfer pigyn y Foel Ddu, ac ni allech ddeyd ar y funud prun ai sglein ei gwallt rhyngoch a'r gole a welech chi, ynte ai yn yr awyr ei hun ar ben y Foel yr oedd y lliw. Mi weles toc mai yn yr awyr yr oedd o, ond roedd o'r un ffunud a'i gwallt hi rhyngoch a'r gole. Weles i rioed mo'r wawr o'r blaen yn yr ha,—y peth tebyca a welsoch chi i wallt Jinny rhyngoch a'r gole ydi hi.

Ac yr oedd ei llygid yr un fath a gwaelod yr Hen Ffynnon yn union, a'i chyrls fel tase nhw'n gneud eu gore i guddio ei gwyneb.

Mi fentres ddeyd gair wrthi,—

"Ydech chi'n leicio mafon duon?" medde fi, gan gnoi ngwinedd wedi methu meddwl am ddim arall i'w ddeyd.

"Ydw, ymhle mae nhw i'w cael?" medde hi.

"Does ene ddim," meddwn inne, gan ddechre gweld fy meddalwch. O achos mi weles y funud honno mai peth gwirion oedd gofyn a oedd hi'n