nhad a mam, ac mi ddechreues ddeyd pethe wrthyn nhw, nad oeddwn i ddim wedi meiddio eu deyd hyd yn oed wrth Wmffre.
"Wel," medde'r hen ddyn, "mae'n gamp iti ddeyd pwy yden ni er ein bod ni'n gymint o ffrindie."
Be ddeydwn i'n te, ond nad oeddwn i ddim yn cofio? Plygodd yr hen ddyn ata i nes mod i'n clywed ei wynt o'n gynnes ar fy ngwddw, a deydodd yn ddistaw, tan edrych o'i gwmpas,—"Enaid y Foel ydw i, ac Enaid yr afon bach dan tŷ ydi hithe." Roeddwn i'n methu dallt am funud be oedd o'n feddwl, ond mi gofies fod y pregethwr y nos Sul cynt wedi deyd stori am enaid rhyw fachgen bach yn mynd i ffwrdd, gan ddeyd be oedd enaid, pan oeddwn i'n edrych ar y darn ffenest crwn oedd mor ddu uwch ben y bleind, er mwyn gweled fase ne rywbeth yn edrych trwyddo fo o'r tuallan. Ac mi ddalltes yr hen ddyn yn syth. Roedd o'n mynd i ddeyd rhywbeth arall, ond dyma lais rhywun yn hanner nadu y tu ol i mi. Trois i edrych, ac er fy syndod, roedd hi'n dwyll fel y fagddu, ond fod rhyw ole bach yn dwad o'r pellter, a phwy glywn i'n gweiddi f'enw i ond mam. Dwad yr oedd hi i edrych amdana i efo lantar. Roedd hi'n falch o ngweld i, a minne'n falch o'i gweld hithe hefyd, gan ei bod mor dwyll, a'r hen ddyn a'r hen wraig, erbyn hyn, wedi mynd. Ond welsoch chi rioed mor ifanc roedd hi'n edrych. Ddeydes i ddim am fy ffrindie wrthi: gwyddwn na fase hi ddim yn dallt, ac y base hi'n mynd i nadu wrth feddwl fod rhywbeth o'i le arna i,—mod i'n deyd anwiredd, neu ddim yn gall. Mae Isaac yn methu dallt y pethe sy'n mynd rhwng Wmffre a fi, a pheth diflas ydi ceisio sbonio pan na bydd pobol yn dallt,