a fase mam ddim gwell. Eis i ngwely reit gynnar y nosweth honno, a hynny ohonof fy hun. Rywsut roedd nhad a mam yn siarad am bethe anniddorol iawn i mi, wedi ymgom yr hen ddyn a'r hen wraig, fel y mae Winnie ac Isaac, pan fydd Wmffre a fi'n chware. Babi ydi Winnie, a dydi hi ddim yn ddwyflwydd eto, a chofiwch mod i'n ddeg.
Ond y nosweth ryfedda oedd honno pan oedd modryb Ann yn sâl, a minne'n gorfod mynd i dŷ cipar Bodidwal i chwilio am wningen i neud potes iddi hi, fel roedd y doctor yn deyd. Plas Syr Hugh ydi Bodidwal, a dydi Syr Hugh ddim yno ers tro. Dydi'r Plas ddim digon maint iddo rwan, medde'r cipar. Mae o wedi cael ei godi gan y llywodraeth, ac mae'r llywodraeth wedi ffeindio lle iddo fo fyw yn Lloeger, medde'r cipar, mwy o lawer na Bodidwal. Wedi cael ei neud yn fancrafft, neu rywbeth fel ene mae o, a'r cipar sy'n edrych ar ol Bodidwal rwan, ac yn byw yn ymyl. Roedd Syr Hugh eisio mynd i'r Senedd unweth, ac roedd yn rhaid i bawb fotio er mwyn iddo gael mynd yno, a daeth y cipar o gwmpas y tai i ddeyd os gwnai pobol fotio iddo, y cawsen nhw wningen am ddim, dim ond gofyn, ac mi fotiodd f'ewyrth John iddo,—dydi nhad ddim yn hidio am wningod, medde fo. Dyn clên iawn ydi Syr Hugh. Mi roddodd pawb oedd gan fflagie rai i fyny, pan aeth o i'r Senedd, ond doedd gennym ni run fflag, medde mam. Doedd pobol ddim mor llawen ag y basech chi'n disgwyl pan gafodd o'i godi'n fancrafft. Dydwi ddim yn meddwl fod pobol yn meddwl cymint ohono fo rwan ag y buon nhw.