llygad. Wedi edrych arno am funud, fedrwn i ddim yn fy myw dynnu fy llygid oddiarno, ac yn wir i chi, be wnaeth o ond wincian arna i efo'r llygad dall. Roedd o mor ddoniol, fel na fedrwn i ddim peidio chwerthin, ac mi anghofies fod arnai ofn. Dene fo'n wincian â'r llygad arall, ac yn crychu ei dalcen yn ol a blaen, fel y bydd nhad yn ei chrychu pan fydd arno eisio i Winnie weld ei gorun o'n ysgwyd, ac yr oedd y gole ar y Plas yn dwad yn is i lawr o hyd. A be feddyliech chi, dyma'r gwyneb un llygad yma allan o'r wal, ac yn dwad ata i,—dim ond pen, ond roedd o'n wincian ac yn gwenu, fel na fedrwn i neud dim ond chwerthin.
"Wel, rhen Nedw," medde fo, "ai ti wyt ti, dywed? Pwy fase'n meddwl dy weld di'n y fan yma, er mod i wedi colli un llygad wrth chwilio am danat ti.—Tyrd i lawr, Owen," medde fo wrth y gwyneb oedd wedi torri ei glust. A dene'r gwyneb hwnnw i lawr.
"Paffiwr ofnadsen ydi Owen yma," medde fo, "fo laddodd y Sais mawr hwnnw yr wsnos dwaetha, a fi claddodd o. Mi claddes o ar ei eistedd. Fedrodd y Sais neud dim i Owen ond torri 'i glust o."
"Paid a lolian," medde Owen, "mae chwaneg o baffio i fod."
Trodd ata i. "Faset ti ddim yn leicio'n helpio ni?" medde fo wrtha i. "Rwan, tyrd yn dy flaen,—ac yn ol a blaen yr aethom ni ein tri am hydoedd,—y ddau ben un bob ochor imi, a minne'n martshio yn y canol rhyngddyn nhw, nes berwi o chwys, a'r penne erill yn ein gwylio ni a gweiddi hwrê. A doeddwn i'n gweld dim yn od o gwbwl yn y penne heb ddim cyrff yma. Mi anghofies bopeth am y wningen a phawb, dim ond disgwyl gweld sowldiwrs diarth yn codi eu penne dros y