Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Nedw (llyfr).djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

graig oedd ar ochor y Plas. Mi wyddwn mai Owen Glyn Dŵr oedd y pen cyfa yma, o achos roedd y scŵl wedi deyd wrthym ni. Be feddyliech chi o feddwl eich bod chi'n byw yn oes Glyn Dŵr?

"Helo," medde rhywun o'r tu ol inni.

"Dene nhw'n dwad!" medde fi, gan droi mhen,—a phwy oedd yno ond y cipar. Trois yn ol i edrych ar y penne, ond roedden nhw yn eu lleoedd ar y wal, heb symud dim o gwbwl, yn edrych dros y coed, yng ngole'r lleuad.

Wyddwn i ddim yn iawn ar y dechre lle roeddwn i, ac yr oedd y cipar yn edrych yn od arna i. "Be haru ti, dywed?" medde fo, "yn rhedeg o gwmpas yng ngole'r lleuad yn y fan yma, yn lle bod yn dy wely?" A dene'r adeg y cofies i mai bachgen oeddwn i, ac nid sowldiwr, ac fod gen i dad a mam. Mi ddeydes fy stori wrtho, pan oedd o ar fin gafael yng ngholer fy jeced i. A phan glywodd o enw f'ewyrth John, newidiodd ei wêdd, a daeth yn ddyn neis. "Tyrd efo mi," medde fo. Wel roeddwn i'n synnu ato fo'n siarad braidd yn chwyrn, heb ddeyd "os gweli di'n dda," wrth un oedd gymint hŷn na fo, ond ddeydes i ddim byd. Waeth i chi heb ddeyd pethe fel hyn wrth gipars. O ran hynny, fedrwn i ddim deyd yr hanes wrth nhad a mam chwaith, pan oedden nhw'n synnu lle bum i mor hir, ac wedi bod yn anesmwyth, medde nhw, a nhad ar fin cychwyn i edrych amdana i. Ond yn wir yr oedden nhw'n edrych yn ifanc yn ymyl Owen a'r gwyneb un llygad hwnnw.

Ydech chi'n teimlo'n hen weithie, deydwch, ac yn fwy cyfforddus efo pobol oedd yn y byd yma ers talwm iawn, nag efo neb arall? Fydda inne ddim yn teimlo felly, chwaith, o ran hynny, ond pan fydda i ar fy mhen fy hun.