ni'n meddwl mai rhywbeth fel ene fase ei ateb o, o achos mae William bob amser yn sôn am ryw eidïa neu'i gilydd ar ol bod yn y coleg,—eidïa dda, neu eidïa ddwl, neu eidïa heb fod mor ddwl. Dene fel y mae o yn eu rhannu nhw.
"William," medde fi wrtho, i droi'r stori, "bedi bod yn ddiymhongar?"
"Faset ti'n leicio gwybod, Nedw?" medde fo.
"Baswn," meddwn inne.
Mi gipiodd fy nghap oddiar fy mhen, a rhoddodd o ar ei ben ei hun. Dydio ddim arfer a gwisgo dim am ei ben, er mwyn bod yn y ffasiwn. Dechreuodd neidio a rhedeg, a'r cap yma fel cocyn hitio ar ei ben o, o achos mae pen William wedi gorffen tyfu. Rhoddodd gic i hen dun corn bîff oedd ar ochor y ffordd, rhedodd i ben corn simdde Winnie Jones, ac edrychodd i lawr, neidiodd dros giât yr ardd ac yn ei ol, a dechreuodd neud nade fel pob math o greaduried.
"Mi allswn feddwl," medde Wmffre wrtha i, pan oedd William yn mynd trwy'r ciamocs yma, "nad ydi bod yn ddiymhongar ddim yn rhyw wahanol iawn i fod ddim yn gall."
Dene oedd yn rhedeg trwy fy meddwl inne, ond nad oeddwn i ddim yn leicio deyd. Wedi'r cwbwl, y mae Wmffre'n frawd iddo, a minne'n ddim ond cefnder, a nês penelin na garddwrn.
Wedi colli ei wynt yn lân, daeth William atom ni.
"Dene ydi bod yn ddiymhongar," medde fo.
"Mae'n ddrwg gen i ddeyd," medde fi, "nad ydwi fawr gwell eto."
"Wel di," medde fo, "mi fum i'n hogyn fel ti, yn gwisgo cap fel ene, yn cicio tunie a neidio dros giatie, a gwatar creaduried, a thaflu pethe i lawr