simdde Winnie Jones, ond rwan rydwi wedi bod yn y coleg, ac wedi newid. Dyma ydi bod yn ddiymhongar, cymyd arnat nad wyt ti wedi newid dim o'r hyn oeddet ti estalwm. I fod yn glir," medde fo, "dyma'r ysgol yma,"—roedd ene ysgol yn pwyso yn erbyn ysgubor Winnie Jones,—"Mae eisio iti ddringo i ben yr ysgol yma, ond er hynny cymyd arnat mai yn y gwaelod yr wyt ti o hyd. Dyma fi wedi dringo'r ysgol a mynd i'r Coleg,—bod yn ddiymhongar ydi actio fel taswn i heb ddringo dim."
"Wyt ti'n deyd," medde Wmffre, "mai actio ar ben ysgol fel tase ti yn y gwaelod ydi bod yn ddiymhongar?"
"Dene fo," medde William.
"Dydwi ddim yn gweld felly," meddwn inne, "fod bod yn ddiymhongar yn rhywbeth sâff iawn, a gadael allan y ffaith nad ydio ddim yn edrych yn beth hynod o gall."
"Rydwi o'r un farn â ti," medde William, braidd yn chwerw, "ond rhaid i mi ei thrio hi."
Yr hyn gychwynnodd yr ymgom ene oedd y peth glywsom ni bob dydd ar ol i William ddwad o'r coleg.
"William bach," medde'i fam wrtho fyth a hefyd, "gofala di ddal yn ddiymhongar."
"William," medde fy mam inne, "gofala, machgen i, fod yn ddiymhongar, a phaid ag anghofio dy deulu."
"William," medde nain, "paid ag anghofio, ngwas i, y graig y nadded di ohoni. Bydd yn ddiymhongar, machgen i."
"William," medde Modryb Marged, "mi dalith iti fod yn ddiymhongar ac edrych am dy deulu, pobol felly sy'n wir fawr."