y drws. Pwy ydi hwn sydd efo chi?"—gan bwyntio ata i. Deydodd William wrthi, ac eisteddodd pawb i lawr. Roedd ei bachgen hi wedi methu yn y coleg, fel yr oedd mwya'r piti.
"Sut y mae dy dad, ydio'n dandlo cymint ar dy fam ag erioed?" medde hi wrth William. Wydde William ddim yn iawn sut i ateb y cwestiwn dwbwl yma, a bodlonodd ar ateb y rhan gynta'n unig.
"Mynd i nôl glo ar y tân oeddwn i," medde hi, ac allan â hi.
Ac allan y bu hi am hydoedd a hydoedd, nes ein bod ni wedi mynd reit bryderus am ei diogelwch hi, a'n stymogie ni hefyd braidd yn anesmwyth erbyn hyn.
Eis allan i gymowta tipyn, o achos fum i rioed yma o'r blaen, ac mi glywn siarad. Modryb Elin oedd yn deyd wrth wraig y drws nesa, "Mae'n siwr eu bod nhw wedi hel eu hunen yma i dê, ond dydwi ddim am gynnyg tê iddyn nhw, o achos 'does gen i ddim dyled i fachgen Edward Roberts ene. Tase William ei hun yma mi fase'n beth arall."
Syrthiodd fy ngwep i'n syth, o achos fi ydi y mab Edward Roberts dan sylw wyddoch. Eis yn ol at ddrws y tŷ, a chodes fy mys ar Wmffre. Roedd William ar y pryd yn edrych ar y llunie ar y wal. Pan ddeydes i 'r stori wrth Wmffre,—"Wel, ta, ta, modryb Elin," medde fo rhyngddo a fo ei hun. Ac i ffwrdd â ni tuag adre'n ddiseremoni.
Wedi croesi cae neu ddau, mi welem lo modryb Elin yn pori'n dawel ar ganol y weirglodd.
"Llo blwydd," medde Wmffre. "Llo deunaw mis," medde finne.
"Dim ods," medde fo. "Ydi'r creaduried isddynol yn ddiymhongar tybed?"