Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Noson o Farug.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

TAD: Paid â beio dyn am rhyw fân betha fel yna. (Cyfyd i osod y legins a'r esgidiau wrth y bwcedaid datws: yna â at y dresal i gael y Beibl, ac ar ôl symud y bwrdd yn nes i'r tân, cymer gadair ac egyr y Beibl.) Fe ddarllena chydig adnodau, ac wedyn mi awn i orffwys. Leiciech chi ddarllen heno, Elin ?

ELIN: Na, mae'n well gen i beidio heno.

TAD: Pam? Ydych chi ddim yn dda heno?

ELIN: Ydw, cystal ag arfar, ond mod i'n methu peidio meddwl am y cre'duriaid tlawd sy allan yn yr oerfel yr hwyr 'ma.

TAD: Oes rhyw ran y leiciech chi i mi ei darllen?

ELIN: Darllenwch y ddameg ola yn y bymthegfed o Luc.

TAD: O'r gore. Jane, ddaru ti folltio'r drws?

JANE: Naddo. (A at y drws.)

ELIN: Paid â'i folltio fo 'rwan, 'ngeneth i.

TAD: Pam? (Nid etyb ELIN.) Bolltia fo fel arfar. (Gwna JANE felly ac wedyn eistedd ar y soffa gyferbyn â'i mam. Tyn y tad y spectol o'r câs, glanha hi, a gesyd hi ar ei lygaid. Chwilia am y bennod a dechreua ddarllen.) "Yr oedd gan ryw ŵr ddau fab, a'r ieuengaf ohonynt a ddywedodd wrth ei dad, fy nhad, dyro i mi y rhan a ddigwydd o'r da, ac efe a rannodd iddynt ei fywyd." (Tyn y spectol oddi ar ei