lygaid gan gymryd arno fod angen ei glanhau eilwaith.) Ac ar ôl ychydig o ddyddiau y mab ieuengaf a gasglodd y cwbl ynghyd ac a gymerth ei daith i wlad bell, ac yno efe a wasgarodd ei dda gan fyw yn afradlon."
[Clywir curo gwan ar y drws.]
ELIN: 'Rhoswch funud, Wiliam, 'rwy'n meddwl i mi glywed sŵn curo.
TAD: Ddylai dim gael torri ar y darllen.
ELIN: Ond mae hi'n oer iawn i gadw neb i aros heno y tu allan.
[Curir eilwaith dipyn yn drymach.]
TAD: Jane, gwell agor y drws efallai : hwyrach fod y pregethwr wedi dwad heno yn lle bore fory.
[Tyn JANE y follt ac egyr y drws.]
JANE: Pwy sydd yna ?
DIC (yn dyfod i mewn drwy'r drws a golwg llwm a chystuddiol arno, fel pe'n rhy wan i gerdded. Sieryd mewn llais bloesg a blinir ef gan beswch trwm): Jane!
ELIN (yn codi yn egwan ar ei thraed a'i llais yn grynedig): Pwy sydd 'na, Jane? Dic annwyl, ai ti sydd yna, dywed? Tyrd at y tân, 'machgen bach i, i dwymo dy ddwylo oerion. Mae 'meddwl i wedi bod hefo ti drwy gydol nosweithia'r barrug 'ma.