Tudalen:O Law i Law.pdf/108

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

medru tynnu crowd, beth bynnag, ac mi wyddost na wnes i hynny erioed wrth bregethu. Mi glywais stori, y diwrnod o'r blaen, am ryw hen weinidog ym Môn yn penderfynu trio defnyddio'i lais. 'Roedd o'n gwybod bod y gynulleidfa'n anfodlon ac anesmwyth, wedi hen flino ar 'i ddull tawel o o bregethu. 'Mae gen' i bedwar pen bora 'ma', medda' fo ar ôl rhoi 'i destun allan. 'Yn y lle cynta' . . . A dyma fo'n cyhoeddi'r pen cynta'. 'Yn yr ail le' . . . A dyma gyhoeddi'r ail ben. ' Yn y trydydd lle' . . . Adynaddweud y trydydd pen ac aros wedyn â'i law i fyny cyn gweiddi ar dop 'i lais, 'Yn bedwerydd, BLOEDD er mwyn effaith!'"

Aeth Mr. Jones trwy'r darn hefo mi yn hynod ofalus, er iddo gyfaddef nad oedd ganddo lawer i'w chwanegu at awgrymiadau F'ewythr Huw. A'r nos Fercher ganlynol, brysiais drwy fy swper-chwarel er mwyn cyrraedd y 'prelim' yn festri Bethania mewn pryd. Yno, yr oedd rhyw hanner dwsin o fechgyn a genethod yn aros eu tro, a phan euthum drwy'r drws atynt, suddodd fy nghalon o'm mewn. Clywn, o'r ystafell nesaf, lais Arfon Hughes yn taranu'r ddau air "Y Bradwr." Arfon oedd disgybl disgleiriaf John Lloyd, a gwnaethai enw iddo'i hun yn barod yn eisteddfodau a chyngherddau'r cylch. Eisteddais ar gongl y sedd hir, wrth ochr y plant eraill, a gwrandewais ar y llais yn treiglo fel afon o olew am ennyd cyn hyrddio'i nerth yn rhaeadr anferth tros glogwyn mawr. Llithrodd Robin Llew, hogyn newydd ddechrau gweithio yn yr un bonc â minnau yn y chwarel, ar hyd y sedd ataf.

"'Sgynno' ni ddim siawns, was," meddai. "Be' ma' hwnna isio trio a fynta' newydd ennill ar yr un darn yn 'steddfod Capal Mawr?"

Agorodd drws yr ystafell fewnol a galwodd llais am yr adroddwr nesaf. Daeth ofn i'm calon wrth imi glywed y llais hwnnw, a throais fy mhen yn sydyn tuag ato. Safai John Lloyd wrth y drws, a chefais gip ar wên ddirmygus a ddaeth i'w wyneb am eiliad wrth fy ngweld i ar gongl y sedd. Ond dim ond am ennyd y bu'r wên honno yn ei lygaid, a'r foment nesaf, nodiai'n dadol tuag atom oll cyn arwain merch fach o flaen y beirniad. Beth oedd John Lloyd yn ei wneud yn y 'prelim'? Yna cofiais ei fod yn