Tudalen:O Law i Law.pdf/146

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Pwy ddaru ennill hiddiw, 'nhad?" fyddai fy nghwestiwn iddo amser te ddydd Sul.

"Pwy wyt ti'n feddwl? Fi, debyg iawn."

A chawn hanes yr ymgyrch, rhywbeth tebyg i hyn —

"Mi fuo' ni trwy'r pnawn 'ma hefo un adnod, fachgan — 'Canys megis y mae y corff heb yr ysbryd yn farw, felly hefyd ffydd heb weithredoedd, marw yw.' Lewis Roberts yn dadla', hefo Iago, mai ffydd farw ydi ffydd heb weithredoedd, a fìnna'n dal nad oedd yno ffydd o gwbwl, wel'di. 'Roeddwn i'n dweud wrtho fo fod galw'r peth yn ffydd yr un fath â galw dyn yn chwarelwr a fynta' heb fedru naddu llechan, neu alw rhywun yn fardd a fynta' heb lunio darn o farddoniaeth 'rioed. ' 'Does 'na ddim y fath beth â ffydd heb weithredoedd, Lewis,' medda' fi, ond 'roedd o'n dadla' . . ." A thorrai fy mam ar yr hanes i'n galw at ein te, rhag ofn i minnau ddewis ochr Lewis Roberts i'r ddadl.

Rhyw gelwydd golau oedd araith fy nhad yn y Seiat. Agorai hi bob amser â'r un geiriau. "Wel, frodyr a chwiorydd," fyddai'r rhagymadrodd," 'dydw' i ddim wedi meddwl am ddim byd neilltuol i'w ddweud, ond mi alla' i ddweud fod yn dda gen' i gael bod yma a gweld cynulliad bach reit gryno wedi dŵad ynghyd. Fe fu un sylw o eiddo'r Apostol ar fy meddwl i dipyn ers dydd'a' bellach . . ." Ond gwyddwn i iddo loffa yn un o'r esboniadau cyn gadael y tŷ am y Seiat.

Ni chodai dadl rhyngddo ef ac Ifan Môn ar y ffordd i'r chwarel neu'n ôl. Hynny am y rheswm syml na fentrai Ifan Jones ddadlau ag ef. Gŵr bychan, go denau, oedd fy nhad, a thybiech, o edrych arno, na feiddiai herio barn y cawr o ddyn a gerddai wrth ei ochr. Ond fel arall yn hollol yr oedd hi. Os digwyddai Ifan Môn gamu'n ddiarwybod i dir diwinyddol, byddai "Mae'r Ysgrythur yn dweud . . ." neu "Mi glywis i E.T. yn un o'i bregetha' yn dal . ." o enau fy nhad yn ddigon iddo ymdawelu neu droi'r sgwrs. Breuddwydiwr ac ystorïwr oedd ef, a gwyddai mai ffolineb oedd iddo ymgiprys â meddyliwr a dadleuwr fel fy nhad. Gwrandawai fy nhad ar straeon Ifan Môn â diddordeb mawr, a rhoddai Ifan Jones glust lawn mor eiddgar i sylwadau