Tudalen:O Law i Law.pdf/145

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Ond 'roeddan' nhw wedi gwywo a mynd yn hen Robat."

"Dyna'n union pam yr oeddan' nhw'n hongian ar y silff 'na."

Ac â'i fy nhad i'r gegin at ei bapur newydd gan fwmian rhywbeth am anwybodaeth a dylni rhai pobl.

Yfai gegaid o ddiod wermod y peth cyntaf pan ddeuai i lawr o'r llofft yn y bore, a thynnai ystumiau ddigon i ddychrynu neb. Pan âi am dro i fyny Bryn Llus neu hyd lethrau'r Foel, trawai lysiau a dail o bob math yn ei boced, a chludai dusw o hyn a'r llall i'w rwymo a'i hongian i sychu yn y gegin fach. Cwynai fy mam fod gwreiddiau danadl poethion neu flodau camomil neu rywbeth hyd y lle i gyd, ond enghraifft o'i gormodiaith hi oedd hynny, ac ni wnâi fy nhad ond taflu winc oddefgar ataf. Yr hyn a achosai wir gynnen rhwng y ddau oedd ufudd-dod fy nhad i gynghorion "Llyfr Pawb ar Bob Peth "ar bwnc y diffyg treuliad. Peidio â bwyta, os cofiaf yn iawn, ac yna dysgu bwyta ond ychydig oedd awgrym caredig y llyfr, a chymerai fy nhad yn ei ben, pan ddôi pwl o gamdreuliad arno, i fynd heb fwyd am ddiwrnod cyfan ac weithiau am ddau neu dri diwrnod. "Hen lol wirion "y galwai fy mam y merthyrdod hwn, ac os digwyddai ar ddiwedd yr wythnos a hithau wedi paratoi rhyw damaid blasus ar gyfer y Sul, huawdl iawn fyddai ei chondemniad o ffydd fy nhad yn "yr hen lyfr 'na," ac aml ei bygythiad i "daflu'r hen beth i'r tân." Pan welai nad ysigai'r bygylu ddim ar benderfyniad fy nhad, âi ati i'w demtio. "Tyd, Robat, 'wnaiff tamaid o lamb ddrwg i neb." neu "Tria'r cystard 'ma; mae 'na ddau wy ynddo fo." neu "Cymer damaid o'r deisen yma; 'does yna ddim byd i dy ypsetio di yn hon." Ond nid ysgydwai un cymhelliad gadernid tawel fy nhad. Er hynny, bob tro y deuai'r ysfa i ymprydio trosto, daliai fy mam ati i fygwth ac wedyn i gymell yn hollol fel pe bai'r peth yn digwydd am y tro cyntaf erioed.

Ond yr Esboniadau hyn, a Geiriadur Mathetes yn arbennig, oedd porfeydd gwelltog fy nhad. Ynddynt hwy y câi ddeunydd dadl â Lewis Roberts, athro'r dosbarth o ddynion yn yr Ysgol Sul, neu awgrym ar gyfer pwt o araith yn y Seiat.