Tudalen:O Law i Law.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Felly, wir, Meri Ifans! Ymh'le, deudwch?"

"Ond hefo'r hen Rees y Stiward, debyg iawn. Hen le calad oedd o hefyd."

"I fyny yn 'Holly Bank' acw, ynte?"

"Ia, ond 'Penybryn' yr amsar honno. Ymlafnio—a 'doedd Elin a fìnna' ond gennod bach—ymlafnio am y nesa' peth i ddim, Ifan Jones. A fynta'n ben-stiward yn y chwaral ac yn cael arian mawr. Dim ond cael rhedag adra unwaith yr wsnos i de, a mynd i'r capal nos Sul. Gorfod sgwrio hen loria' mawr a golchi cynfasa' a chwiltia' - berwi dŵr a'i gario fo i ryw hen dwb yn y cefn. 'Rargian, mi fydda' i'n 'i gweld hi'n braf ar y gennod 'ma heddiw. 'Doedd gynnom ni ddim amsar i ddim byd ond sgwrio a golchi a thrwsio bob munud. A'r cwbwl am hannar-coron yr wsnos, Ifan Jones. Dim ond dau fis fûm i yno, ond fe 'rosod Elin druan am flwyddyn . . . 'Gymwch chi lymaid o rywbath cyn mynd i'ch gwely, John Davies?"

Ysgydwais fy mhen, ac wrth weld Ifan Jones fel pe'n tynnu ei goesau ato, chwiliais am frawddeg i'w gychwyn adref.

"Wel, Ifan Jones, 'does gen' i ond ..."

"Mae'r hen Rees yn 'i fedd ers deugain mlynadd bellach, Meri Ifans. Hen fôi duwiol dros ben, ond un cas gynddeiriog yn y chwaral."

"'Fydda' fo ddim yn pregethu weithia' deudwch, Ifan Jones?"Hyn oddi wrth Dafydd Owen, a'i lygaid, wrth iddo gael ei big i mewn i'r sgwrs, fel llygaid dryw bach. "Byddai, neno'r Tad, bron bob Sul yn rhywla. Ond 'doedd o fawr o bregethwr. Darllan 'i dipyn pregath y bydda' fo, a darllan ar wib wyllt."

"Fo â'i drowsus pen-glin a'i legins melyn!"ebe Meri Ifans. "'Wyddoch chi fod yn rhaid i mi neu Elin druan fynd at yr hen Janie Rees am lwyaid o de bob pnawn cyn cael gneud 'panad fach? Mynd â'r tebot ati hi, a hithau'n rhoi pinsiad o de ynddo fo. A phinsiad oedd o hefyd! . . . 'Ydach chi'n siŵr na chymwch chi ddim llymaid i'w yfad, John Davies?"