Tudalen:O Law i Law.pdf/151

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i'w ddangos o i Mr. Jones. Ond mi anghofiais bopeth amdano fo, wel'di. Rhed â fo adra i Huw, John bach."

Yr emyn hwnnw, "Mae'r gwaed a redodd ar y groes," oedd hoff emyn F'ewythr Huw, ac adroddai'r pennill cyntaf yn y Seiat yn aml yn lle dweud adnod. Mynnai ef gael mynd i'r Seiat hyd yn oed yn ei gadair, ac eisteddai ynddi wrth y ddau ris a arweiniai i'r sêt fawr. Gan mai bychan oedd ein nifer yn y capel, cadwyd at yr arferiad o ofyn i bawb, merched a phlant a dynion, ddweud adnod. Chwilio am yr adnodau lleiaf yr oedd llawer ohonom, y mae arnaf ofn, a bodloni, fel Defi Preis yn ddieithriad, ar gofio gwraig Lot. Codai Mr. Jones yn y sêt fawr i alw pob un wrth ei enw, ac yna caem ddetholiad medrus o adnodau byrraf y Beibl, hyd oni chyrhaeddai'r gweinidog sedd Rosie Hughes. Rhoddai llais cymhenllyd Rosie hwb a cham a naid drwy bennod gyfan, ond prin y gwrandawai neb ond Mr. Jones arni, am a wn i. Galwai'r gweinidog wedyn ar F'ewythr Huw, a gallech glywed pin yn syrthio i'r llawr pan ddechreuai ef lefaru, Na, nid am fod pobl yn tosturio wrth y gŵr anffodus yn ei gadair ac yn mynegi eu cydymdeimlad trwy wrando'n astud ar ei lais, ond am fod F'ewythr Huw y siaradwr gorau a glywodd neb erioed. Credwn i hynny pan oedd ef yn fyw, ac er imi glywed pregethwyr ac areithwyr gorau Cymru ar lwyfan ac ar y radio o dro i dro, daliaf i gredu hynny. Yr oedd ei lais a'i oslef mor ddiffuant ag ef ei hun. Clywaf, y munud yma, Mr. Jones yn galw enw Huw Davies yn y Seiat, a F'ewythr Huw, ar ôl ymson dienaid Rosie Hughes, yn plethu ei ddwylo ac yn gwyro ymlaen ychydig i adrodd "Mae'r gwaed a redodd ar y groes." "Mae'r gwaed, " meddai, gan godi ei lygaid i nenfwd y capel ac aros ennyd fel petai'n gwrando ar ei lais clir a threiddgar ei hun yn crwydro o amgylch y distawrwydd. Yna gwelech y gwaed yn rhedeg, nid yn diferu, ar bren gwrthun y groes, a chaech yn y frawddeg "o oes i oes" ryw amgyffrediad rhyfedd o dreigliad araf amser. "Rhy fyr," meddai f'ewythr, "yw tragwyddoldeb llawn," a theimlech fod tragwyddoldeb yn ymchwyddo ac yn ymgyrraedd fel môr diderfyn yn arafwch ysgubol y geiriau. A phan siaradai yn y Seiat, gwelai a theimlai f'ewythr bopeth y soniai amdano. Ni wastraffai eiriau, ac ni adawai iddynt droi'n