Tudalen:O Law i Law.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwyddoch chi. Mae'n dda fod Ella'n gwbod sut i'w gadw fo yn 'i le, ac mi ofala hi y cewch chi'ch arian am y mangyl — hynny ydi, os ydach chi am 'i werthu o."

Gwyddwn, mi wyddwn fod Jim yn un go 'beth'ma' — palff o ddyn gerwin, trystiog, yn ymladd â rhywun bob nos Sadwrn ac yn rhoi ei ben allan drwy ffenestr y llofft gefn bob bore Sul i regi'r ceiliog. Buasai'r perfformiad yn un digrif iawn ar y cychwyn, ond daethai'r stryd yn gynefin ag ef bellach, a cheisiai pawb fynd yn ôl i gysgu yn sŵn rhegfeydd Jim a gwatwar y ceiliog. Os digwyddai rhyw ddieithryn synnu a rhyfeddu, yr unig ateb fyddai, "O, Jim Gorila sy'n ffraeo hefo'r hen geiliog 'na. "Tyfasai 'Jim-gŵr-Ella' yn 'Jim Gorila', er mai da o beth oedd na wyddai Jim mo hynny. Ond chwarae teg i Ella, cadwai Jim yn ei le, chwedl Meri Ifans. Er nad oedd hi ond dim o beth, aml y gwelid y clamp o ddyn yn ei gwadnu hi adref am ei fywyd o'i blaen. Golygfa a oedd yn werth talu am ei gweld oedd hon — y ddimeiwerth o ddynes yn tafodi ei ffordd drwy'r pentref, a'r cawr o ddyn yn ei hercian hi ar wib o'i blaen. Cyn gynted ag y clywai'r llais dipyn yn nes o'i ôl, dyna Jim yn codi ei ben yn sydyn ac yn dechrau mynd am ei fywyd: gwnâi ichwi feddwl am ryw geiliog mawr yn dianc o flaen cyw iâr.

"Ydi, mae Jim yn un go beth'ma, Meri Ifans. Ond mae 'i galon o'n y lle iawn, wyddoch chi." "Dyna ydw' innau'n ddeud bob amsar. Mi wnaiff o rwbath i rywun, a 'does arno fo nag Ella ddim dima' i neb. . . Sut flas sy ar yr wy, John Davies?"

"Campus, Meri Ifans, campus wir."

"Mae nhw'n wyau neis . . Ond, wrth gwrs, 'fallai nad ydach chi ddim am werthu'r mangyl. Ma' gen Ella un bach, wyddoch chi, y dela' welsoch chi 'rioed, o siop Wmffra Lloyd, ond 'dydi'r rheini ddim yn manglio fel y rhai mawr hen-ffasiwn. Dyna ydw' i'n ddeud, beth bynnag. 'Faint sy arnoch chi isio amdano fo, John Davies?"

Torrodd llais o'r gegin fach cyn imi orfod chwilio am ateb . . . "Hylo! 'Oes 'na bobol yma?"

"Dowch i mewn, Leusa Morgan."

"Dim ond dŵad i weld sut 'rydach chi heddiw . . . O,