Tudalen:O Law i Law.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Diar annwl! Wel, mi ddo' i mewn eto, pan fydd gen' i fwy o amsar," ebe Leusa Morgan. "Ne' mi fydd Susan ar Ô1 yn y Cownti Sgŵl. Da boch chi 'rŵan."

Teimlwn fod Jane Roberts yn rhoi rhyw bwyslais mawr ar "Cownti Sgŵl "wrth fynd tua'r drws, rhyw bwyslais a awgrymai fod honno ganddi, Meri Evans neu beidio.

Cliriodd Meri Ifans y bwrdd heb edrych arnaf. Yr oedd ar gychwyn allan i ysgwyd y lliain cyn cymryd sylw o'r wên ar fy wyneb.

"'Dewch chi byth i'r nefoedd," meddwn.

"Tyt! Mi fuasa' honna'n cymryd y dresal a'r harmonia a'r gwlâu a'r mangyl a'r cwbwl i gyd, ond 'welach chi ddim dima' goch o hyn i'ch bedd. Harmonia, wir! 'Tasa' hi'n talu dim ond yr hyn sy arni hi i'r hen Wmffra Lloyd druan, a fynta' mor wael!"

Daeth llais eto o'r gegin fach.

"Ydi 'mam yma, John Davies?"

"Ydi, Ella, Dowch i mewn."

"Jim wedi aros gartra o'r chwarel heddiw, ddim hannar da hefo'i 'stumog, ac wedi gweld Ned, gwas Tŷ Popty, wrth stabal Morus Becar, a Ned yn deud . . ."

"Cymar dy wynt, Ella," ebe'i mam.

"Ned yn deud y daw o i roi llaw hefo'r mangyl. Pryd cân' nhw ddŵad, John Davies?"

"Pryd y mynnoch chi, Ella. A chyda llaw, diolch am yr wya'."

"Twt! . . . Mi reda' i i nôl Jim 'rŵan."

Ac i ffwrdd â hi fel gwiwer fach.

"Gwrandwch, John Davies," ebe Meri Ifans. "Nid fel 'na mae gwerthu petha'. Rhaid i chi setlo ar y pris i ddechra', ac wedyn peidio â gadal dim i fynd o'r tŷ heb i chi gael arian amdano fo. 'Faint ydi'r mangyl?"

"'Sgin i ddim syniad. Coron?"

"Pymthag swllt o leiaf. Dyma i chi bymthag swllt. Mi geith Ella setlo hefo mi eto . . . Tyd i mewn, Jim."

Daeth Jim i mewn, a thu ôl iddo Ned, gwas Tŷ Popty, neu 'Ned Stabal' fel y gelwid ef gan bawb. Hyn, y mae'n debyg, am mai cario bara allan hefo car a cheffyl oedd y rhan bwysicaf o'i waith. Yr oedd su iddo fod yn "jockey" yn rhywle rywdro, ond ni chlywais i mo Ned ei hun yn sôn am