Tudalen:O Law i Law.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mae sôn eu bod nhw am agor rhyw waith arfau yn y cylch yma, gwaith i dros dair mil. Wel, fe fydd hi'n dda gweld Howel ac Ifan yn ennill eu tamaid eto, arfau neu beidio. Ond yr wyf i'n rhy hen i gael gwaith, a rhaid imi fodloni ar fy mhensiwn a'm cric-cymalau bellach. Mi hoffwn i gael un olwg arall ar yr hen Wyddfa o Ben y Ffridd, fachgen, a thro i'r chwarel i fyny i Bonc yr Efail, a phnawn o bysgota hyd lannau Afon Lwyd . . ."

Rhoddais y llythyr yn fy mhoced a brysiais i'r cefn. Yno yr oedd yr olygfa ryfeddaf-y mangyl ar y llwybr y tu allan i'r ddôr, fel rhyw anifail mawr, ystyfnig; Ella'n siarad pymtheg y dwsin ac yn ceisio egluro rhywbeth yr oedd Jim yn rhy ddwl i'w ddeall; Jim yn chwys diferol yn pwyso'n ddiymadferth yn erbyn y wal; a Ned fel pe'n trio argyhoeddi Bess, y gaseg, fod cael ei bachu wrth fangyl yn fraint na chafodd caseg na cheffyl mohoni erioed o'r blaen.

Deellais oddi wrth Meri Ifans iddynt wthio'r mangyl yn o rwydd allan o'r cwt, ac ar hyd llechi esmwyth llwybr yr ardd. Pan oeddynt yng nghyffiniau'r ddôr, "Ffwl sbîd ahed, was,"gwaeddodd Jim, er mwyn brysio dros y dam caregog ar fin y lôn gefn. Ond nogio'n sydyn a wnaeth y mangyl a herio holl fustachu a rhegfeydd y gyrwyr. O'r diwedd, gwaeddodd Ella fod yr olwyn flaen wedi torri'n ddwy, gan chwanegu, y mae'n debyg, rywbeth am ffordd wyllt rhai pobl o wneud pethau. Oedd, yr oedd yr olwyn yn ddwy, ac nid rhyfedd bod y mangyl fel ceffyl pren, yn codi ymlaen ar big yr hanner olwyn ennyd, ac yna'n siglo'n ôl i'r pig arall. Wedi hir ymlafnio a thuchan a chwysu, "Dos i nôl y gasag, Ned,"oedd gorchymyn Jim.

Bachwyd y gaseg wrth y mangyl, ac wedi i Bess dyllu cryn dipyn ar y ffordd, cychwynnodd yr Orymdaith yn araf. Dilynais innau hi cyn belled â chefn tŷ Ella, ac yno, gwelodd pawb ar unwaith fod profedigaethau eto'n ôl. Nid âi'r gaseg trwy'r ddôr, a sut yn y byd yr oedd cael y mangyl ar hyd llwybr yr ardd? Wrth imi droi'n ôl i'r tŷ, clywn Ella'n gweiddi rhywbeth am "blocyn dan 'i ben o," a Ned yn sôn am "ddarnau o beipan, 'r hen Jim." Gwgu ar y mangyl yr oedd "yr hen Jim" a phoeri sug baco bob tro y gostyngai ei aeliau. Ymddangosai i mi fel pe bai wedi troi'n dipyn o