Tudalen:O Law i Law.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

III—YR HARMONIYM

Diolch am dipyn o dawelwch o'r diwedd. Y mae hi'n noson arw heno eto, a'r gwynt yn ysgytio'r hen ddôr yn y cefn. Bu rhywrai'n mynd a dŵad yma drwy'r dydd i brynu hyn a'r llall, ac yr oedd yn dda gennyf glywed yr olaf ohonynt yn dweud "Nos dawch." Ond nid yw'r tŷ'n llawer gwacach, gan i'r rhan fwyaf o'r prynwyr, chwarae teg iddynt, adael eu pethau yma tan ddydd Sadwrn rhag imi deimlo'n chwith hebddynt o hyn i ddiwedd yr wythnos. Aeth Ifan Jones ac eraill â'r harmoniym i festri'r capel ar gyfer y Band of Hope, a gwagiwyd y llofft gefn hefyd bron yn llwyr. Nid oes fawr ddim ar ôl yno ond y lluniau ar y wal, a gwn na phryn neb mo'r rheini. Yn y llofft honno y cysgwn i pan oeddwn yn hogyn, ac yng nghwmni'r lluniau hynny yr awn i orffwys bob nos ac y deffrown bob bore. God is Love sydd ar un ohonynt, a phob math o liwiau a'r tryblith rhyfeddaf o flodau amryliw yn chwalu drwy'r llythrennau. Ac uwchben y gair God, wele belen goch yr haul yn gwasgar niwl a chwmwl. Methwn â deall, pan oeddwn yn fachgen bach, pam nad âi'r haul i lawr neu pam