Tudalen:O Law i Law.pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

na chodai yn lle aros yn ei unfan fel hyn; yr unig eglurhad a ddôi i'm meddwl ifanc oedd iddo gael ei angori yno wrth raffau aur y pelydrau a syrthiai i waelod y darlun. Llun ar wydr yw'r llall, llun tai mawrion, pen-drymion, wrth dywod melyn, melyn, ac ar y tywod gant o sbotiau bychain i awgrymu pobl yn eu mwynhau eu hunain ar y traeth. A Present from New Brighton sydd dan y llun, ond ni ddug hwn na phleser na chwestiwn i'm meddwl i erioed. Yn unig cofiaf ofyn i'm tad unwaith ymhle yr oedd y New Brighton yma. "O, yn bell, bell," oedd ei ateb, ac aeth y darlun wedyn, bob tro y digwyddwn sylwi arno, yn rhywbeth pell, pell. Ar y mur arall y mae Tystysgrif Teilyngdod i John Davies gan Gymanfa Bedyddwyr Arfon. Arholiad . . . Ysgrifenedig: Maes Llafur . . Matthew I-X: Marciau . . . 95: Dosbarth . . . Anrhydeddus. Yn ei chanol y mae llun Ioan yn bedyddio Crist, a chofiaf fel y byddwn yn teimlo trostynt ar ambell fore oer yn y gaeaf. Gwenu y byddaf, fel rheol, wrth edrych ar y dystysgrif hon yn ei ffrâm loywddu a llinell aur yn troelli ar hyd y du. Daw atgof am dri ohonom yn mynd i dŷ Ifan Jones un noswaith i eistedd yr arholiad, ac yn cael derbyniad go ffurfiol gan Ifan Môn a deimlai fod arolygu mewn arholiad yn swydd ddifrifol iawn. Emrys, bachgen Mr. Jones y Gweinidog; Defi Preis, hogyn Preis y Barbwr; a minnau-dim ond y tri ohonom a fentrodd i'r ornest. Rhoddwyd ni i eistedd wrth fwrdd y parlwr, ac yr oedd darn glân o bapur-blotio a dalennau o bapur gwyn wrth bob cadair. Agorodd Ifan Jones amlen y cwestiynau yn araf a phwysig a chan daflu ambell olwg ddifater arnom ni. Wedyn, edrychodd ar y cloc a dweud, "Pum munud wedi chwech. Dim gair arall tan bum munud wedi saith. "Rhoes y papur cyntaf i Emrys yn ddwys-ddifrifol, yr ail i mi yn fwy tadol, a hanner-daflu'r trydydd i Defi Preis. Aeth Emrys ati ar unwaith i ysgrifennu nerth ei ben; a dechreuais innau gasglu'r atebion i'm meddwl wrth ddarllen y cwestiynau. Ymhen tipyn, clywn Defi yn rhoi pwniad ysgafn i'm braich ac yn dechrau sibrwd rhywbeth yn fy nghlust. Cododd Ifan Jones o'i gadair wrth y tân.

"Dim gair ddeudis i, Defi Preis. Ne' adra ar dy ben y cei di fynd."