Tudalen:O Law i Law.pdf/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chwarel. Ond cipiai'r gwynt ei lais a'i gludo ymaith hefo'r tonnau i gyfeiriad y môr mawr.

"'Wnawn ni foddi, F'ewyrth Huw?" meddwn innau yn llawn dychryn erbyn hyn.

Chwarddodd yntau i'm cysuro, ond gwyddwn ei fod ar bigau'r drain ers meitin.

"'Tasa' modd mynd allan i wthio'r hen beth, mi gwthiwn i o adra bob cam," meddai. "Ffaiar! Help! Help!"

Ond ni thyciai'r gweiddi ddim, er bod llais f'ewythr yn un uchel a threiddgar. Chwifiodd ei het, yna ei gadach poced, wedyn ei gôt; ond parhau'n ddifater yr oedd y pysgodwyr.

"'Ydi'r ffyliaid yn ddall ac yn fyddar, dywed?" meddai'n wyllt. "Help! Ffaiar! Help!"

Allan i'r môr y llithrem o hyd, er i'm hewythr dynnu ei wasgod hefyd erbyn hyn. Yna gloywodd ei lygaid yn sydyn, fel petai rhyw syniad newydd wedi ei daro.

"'Oes 'na angor wrth y rhaff 'ma, dywed?"

"Oes, F'ewyrth," meddwn innau, gan bwyntio at yr haearn mawr a orweddai o dan y sedd lydan yng nghefn y cwch.

"I'r môr â fo, ynta'!"

Cododd yr angor trwm i'r sedd, ac wedi ei fodloni ei hun fod y rhaff yn dynn amdano, hyrddiodd ef dros ochr y cwch. Diflannodd yr angor a'r rhaff a'r cwbl i'r môr, a'm hewythr yn edrych yn hurt ar eu holau. Nid oedd pen arall y rhaff yn rhwym wrth y fodrwy haearn ar lawr y cwch.

"Llongwr da gynddeiriog ydi d'ewyth', yntê, John bach?"

"Ia," meddwn innau, heb wybod yn iawn beth i'w ddweud. "'Wnawn ni ddim boddi, 'wnawn ni, F'ewyrth Huw?"

"Boddi! Be' wyt ti isio i de heddiw, John bach? Wy? Teisan-bwdin? Jam mwyar-duon? Jelly?"

"Isio mynd adra, F'ewyrth Huw," oedd fy unig ateb, a hynny mewn llais cwynfanllyd ddigon.

"Twt! Paid ti â bod yn hen fabi, 'rŵan. A ninna'n ddau o'r llongwrs gora' fuo' ar y môr erioed! Mi awn ni'n ôl i'r dre ' rŵan i gael clamp o de, wel'di."

Ond yr oeddwn i, bellach, wedi ymostwng i'r gred na welwn na glan na the byth mwy, dim ond môr a thonnau