Tudalen:O Law i Law.pdf/55

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Mi welis i Now Cychod yn sgowlio ar draws y llyn, wel'di, " meddai. "Rhaid i ninna' sgowlio bob cam yn ol."

Ar fôr mor anniddig ni wnâi'r rhodli, ac yn arbennig dull chwarelwr o ymarfer y grefft, ond helpu'r tonnau i daflu'r cwch o ochr i ochr. Torrais innau ar ymgysegriad f'ewythr i'r gwaith trwy awgrymu iddo fy mod ar fynd yn sâl. Yr oeddwn, yn ôl y stori a glywais ganddo droeon wedyn, yn wyrdd fy wyneb ac yn eigian fel un yn eistedd ar glustog o binnau.

"Meddwl dy fod ti'n sâl yr wyt ti, John bach," meddai yntau. "Fel'na y bydd pobol yn teimlo ar y môr, wsti. Bwyta di'r oraens 'na 'rŵan; mi fyddi di'n rêl bôi mewn munud. 'Fydd yr un llongwr go-iawn yn mynd yn sâl ar y môr, wel'di."

Profais ar unwaith nad oeddwn yn llongwr go-iawn trwy wyro tros gefn y cwch a chael gwared o'r danteithion a fwytaswn yn y trên ac ar y ffordd i'r Cei. Rhoes f'ewythr y gorau i'w sgowlio i roddi ei law dan fy nhalcen ac i sychu fy wyneb â'i gadach poced. Bûm yn sâl am ryw chwarter awr heb weld dim trwy fy nagrau ond y môr gwyrddlas yn. llithro'n gyflym dan fy wyneb. Pan oeddwn yn ddigon da i eistedd i fyny ac i edrych o'm cwmpas eto, gwelwn fod y cwch yn wynebu am y môr agored, a'r dynion draw wrth y Cei yn ddim ond sbotiau bychain, pell.

"Isio mam," meddwn wrth f'ewythr, gan ddechrau swnian crio.

"Mi awn ni'n ôl 'rŵan, John bach," meddai yntau, gan wthio'r rhwyf eto i'r bwlch rhodli. "Yn ôl â ni, yntê!"

Tynnodd ei gôt a dechrau rhodli eto fel dyn gwyllt. Ond ar wib o flaen y tonnau y llithrai'r cwch, heb gymryd sylw o'r ymdrechion hyn. Sylweddolodd f'ewythr o'r diwedd fod pethau'n mynd o ddrwg i waeth, a phenderfynodd mai ceisio cymorth oedd y peth doethaf. Safodd yng nghanol y cwch â'i law uwch ei aeliau; ond, fel petai'n grwgnach iddo ystum gŵr yn darganfod cyfandir newydd, rhoes y môr hwb sydyn i'r cwch, a'i daflu yntau ar ei wyneb tros un o'r seddau. Dal i swnian crio a galw am fy mam yr oeddwn i, ond peidiais yn sydyn wrth weld cwch-pysgota mawr heb fod ymhell oddi wrthym. Gwaeddodd F'ewythr Huw "Ffaiar!" nerth ei ben, y cri a glywai bob awr-saethu yn y