Tudalen:O Law i Law.pdf/95

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

driciau yr enillai Sam lwyr feistrolaeth arnynt byth. A'r bore Llun canlynol, pan ddaeth Dic Ifans a minnau adref o'r ysgol am damaid o ginio, cyhoeddodd Joe wrthym fod ganddo anrhegion inni ac yr hoffai ein gweld amser te.

Hir fu'r ddwyawr tan ddiwedd y prynhawn. Aethom yn syth o'r ysgol i'r Neuadd, ac arweiniodd Joe Hopkins ni i'r ystafell fechan a oedd ganddo y tu ôl i'r llen. Ar y bwrdd, yn barod inni eu gwisgo, yr oedd dau bâr o esgidiau-dawnsio, gweddillion o'r dyddiau pan ganai ac y dawnsiai Joe hyd lwyfannau Llundain. Gwisgodd Joe un pâr a dechreuodd ddawnsio yn y lle clir rhwng y bwrdd a'r drws, a mawr oedd ein hedmygedd o sioncrwydd ei draed ac o sŵn y bedol fechan a glepiai o dan yr esgidiau. Wedi iddo eistedd a chael ei wynt ato, eglurodd ei fod am hyfforddi Dic a minnau yn y gelfyddyd a rhoddi inni'r anrhydedd o ddiddori'r gynulleidfa rhwng pob darlun. Buom yn y Neuadd bob gyda'r nos yn ystod yr wythnos honno, ac er bod yr esgidiau-dawnsio braidd yn fawr inni, llwyddodd ein traed chwim i ddenu'r glep o'r gwadnau'n bur fedrus, a rhwbiodd Joe e ddwylo ynghyd â boddhad mawr. Cyn diwedd yr wythnos symudodd fwrdd i ganol y llwyfan, ac uchel oedd ei glod a'i gymeradwyaeth wrth ein gwylio'n dawnsio arno. Oeddym, yr oeddym yn ddigon da i ymddangos o flaen unrhyw gynulleidfa, ac aeth Joe i'r Red Lion i ordro peint i bawb a ddigwyddai fod yno.

Yn ffodus i Dic a minnau — ac i enw da ein rhieni — ni bu galw am ein gwasanaeth fel dawnswyr proffesedig. Yr oeddym i gychwyn ar ein gyrfa gyhoeddus y nos Lun ganlynol, ond hysbysodd Joe ni gyda'r nos fod ei ffilmiau heb gyrraedd er iddo yrru tri theligram i'r dosbarthwyr yn Llundain. Cafodd lythyr swta drannoeth yn gofyn iddo dalu ei ddyledion yn gyntaf, a sylweddolodd Joe fod y byd yn cau ei ddyrnau yn ei erbyn unwaith eto ar ôl ei ymdrech deg fel arbrofwr ym myd celfyddyd. Damo, 'roedd ymhell o flaen ei oes, dyna'r drwg, 'roedd genhedlaeth neu ddwy o flaen ei oes.

Gwerthodd Joe ei beiriant a phopeth arall y gallai daro ei law arno er mwyn cael arian i droi'n ôl i'r Cwm at ei frawd. Ac ar ddiwedd yr wythnos honno, â bag brethyn yn un llaw a basged wellt fawr yn y llall, camodd yn urddasol o ddifater