Tudalen:O Law i Law.pdf/99

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Efallai mai ar y mamau a'r gwragedd y mae'r bai; pan gynigiwn helpu, ni chawn ond ein gyrru 'o'r ffordd' neu ein gorchymyn i 'beidio piltran.' Dyna a gawn i a'm tad, beth bynnag, bob amser gan fy mam.

Pe digwyddai rhyw ddieithryn alw yn y tŷ pan fyddai fy nhad wrthi'n paratoi'r swper ar un o'r nosweithiau hynny, credai iddo gyfarfod dyn siaradus a ffwdanus dros ben. Ni fyddai dim mwy anghywir na hynny. Dyn tawedog, yswil, myfyrgar, oedd ef, a'i drwyn mewn llyfr neu bapur newydd byth a hefyd. Dieithrwch y gwaith o lunio swper neu olchi llestri neu wneud gwely a'i gwnâi mor dafodrydd. Ac er y cymerai ef a minnau arnom ein bod yn mwynhau'r ymroddiad i waith tŷ, cofiaf mor falch oeddym o'r cyfìe i ymddiswyddo pan wellhaodd fy mam; yn wir, teimlem fel dau forwr yn croesawu'r llong-achub ar draeth rhyw ynys anial.

Go debyg, y mae'n bur sicr, fydd helyntion Jim a Wil uwchben yr hen fwrdd os digwydd i Ella gael pwl o afiechyd. Petai bwrdd yn medru chwerthin, fe chwarddai hwn yn ei ddyblau wrth glywed Jim — yn hanner-meddw, efallai — yn gosod swper ac yn rhoddi gwersi i Wil yn y gelfyddyd seml o gadw tŷ. Os clywaf ryw noson fod Ella'n wael, mi biciaf draw i edrych am Jim ac i'w weld ef a Wil yn arlwyo gwledd ar yr hen fwrdd.


—————————————