Dyma ni ar lan yr afon. Y mae llenni'r nos yn ymestyn dros y dref. Y mae'r carcharor newydd ffarwelio â'i deulu, ac wedi bod yn sibrwd gweddi, â'i law ar ben cyrliog yr enethig ddall. Clywir porth trystiog y carchar yn rhugl-droi ar ei golyn, a'r ceidwad yn mynd a'r agoriadau i'w ystafell ei hun. Daeth awr hûn a gorffwys.
Ond welwch chwi y gell gul acw uwchben yr afon? Y mae yna lusern fechan ar y bwrdd, ac yn ei hymyl y mae dau lyfr agored,—y Bibl ydyw un, a Hanes y Merthyron ydyw y llall. Dyna holl lyfrgell Bunyan; ond уг oedd ynddi bob cyflenwad ar gyfer ei feddwl a'i fryd. Sylwch ar y gŵr sydd yn eistedd yn y gadair acw. Y mae ysgrifell yn ei law, a thân athrylith yn ei lygaid. A ydyw efe yn meddwl am ei gell, ac yn teimlo ei fod yng ngharchar? Dim o'r fath! Y mae ei draed yn y Mynyddoedd Hyfryd. Y mae yn syllu ar swynion y Palas Prydferth, ac y mae yr afon ddu, bruddglwyfus, sydd yn rhedeg heibio ei gell wedi ei gweddnewid am afon y Bywyd, disglaer fel y grisial, ac yn dyfod allan dan orseddfainc Duw a'r Oen. Ac y mae llef ddistaw, nefolaidd, yn sibrwd yn ei glust,"Ysgrifenna! yr hyn a welaist ac a glywaist; yr hyn a brofaist yn eigion dy galon dy hun,". ac yn y per-lewyg hwnnw y rhoddwyd bôd i Daith y Pererin! "Felly y deffroais, ac wele, breuddwyd oedd."